23/04/2020

Fel llawer o elusennau eraill ledled y DU, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith anferth ar Ambiwlans Awyr Cymru ac rydym wedi colli incwm sylweddol am fod ein digwyddiadau a'n gweithgareddau codi arian wedi cael eu canslo neu eu gohirio.

Marathon Llundain, a gaiff ei noddi gan Virgin Money ac a ddylai fod wedi cael ei gynnal y mis hwn, yw digwyddiad codi arian un diwrnod mwyaf y byd a chododd fwy na £66.4 miliwn ar gyfer miloedd o elusennau yn 2019.

Yn ffodus, gallwch wneud eich rhan o hyd i'n helpu ni i barhau â'n gwaith sy'n achub bywydau drwy ymuno â'r her 2.6 genedlaethol o ddydd Sul, 26 Ebrill 2020 – y dyddiad y dylai'r marathon fod wedi cael ei gynnal arno.

Gall yr Her 2.6 fod yn unrhyw beth sy'n gweithio i chi. Gallwch redeg neu gerdded 2.6 milltir, 2.6km neu am 26 munud. Gallech wneud yr un peth yn eich cartref neu eich gardd – gallech fynd i fyny ac i lawr y grisiau 26 o weithiau, jyglo am 2.6 munud, gwneud dosbarth ymarfer corff 26 munud o hyd neu gael 26 o bobl ar alwad fideo a gwneud sesiwn ymarfer corff 26 munud – unrhyw beth yr hoffech!

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De a Chanolbarth Cymru,  “Gallai'r digwyddiad hwn newid pethau go iawn yn yr hinsawdd bresennol gan fod yr arian a gaiff ei godi ar gyfer ein helusen yn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr ac yn galluogi ein meddygon medrus i ymateb i argyfyngau sy'n peryglu bywydau.  Gallwch wneud yr her hon ar eich cyflymder eich hun ac yn eich cartref neu eich gardd eich hun – gall pawb gymryd rhan.  Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn cyfrannu £26 ar ein tudalen her os gallwch gymryd rhan a rhoi cynnig arni.”