Mae gyrrwr bws o Sir Benfro wedi codi dros £13,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl iddo fynd yn sâl dros ddegawd yn ôl.

Ddeng mlynedd a hanner yn ôl, cafodd bywyd Richard Lewis ei achub gan ddau feddyg, Philip Thomas a Dorian James, ar ôl iddo ddioddef strôc TIA (a elwir hefyd yn strôc fach).

Dywedodd Richard o Doc Penfro: “Es i i'r ysgol gyda Philip ac roeddwn i wedi tyfu i fyny gydag ef, felly roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl i ddiolch iddo ef a Dorian, ac rydw i wedi bod yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ers hynny.”

Yn ystod y pandemig, cododd Richard swm gwych o £5,060 ar gyfer yr Elusen, arian y mae ei angen yn fawr ar yr elusen sy'n achub  bywydau. Roedd Richard, a elwir hefyd yn Barney, wedi cymryd rhan yn nigwyddiad codi arian Fy Milltiroedd Hedfan yr Elusen, lle roedd yn cerdded i'r gwaith ac yn ôl. Roedd hefyd wedi cynnal gwerthiannau cist car ym marchnad Caeriw, teithiau cerdded noddedig a theithiau beic. Roedd hefyd wedi gwerthu eitemau a roddwyd iddo ar-lein, a chafodd yr holl elw ei roi i'r Elusen.

Wrth fyfyrio ar godi swm enfawr o arian, dywedodd Richard, 53 oed, sy'n gweithio i gwmni Bysiau Cwm Taf: “Rwy'n falch iawn o'r swm rwyf wedi'i godi dros y blynyddoedd a'r holl gymorth rwyf wedi'i gael gan y cyhoedd. Mae'r ymateb gan fy ffrindiau a'm teulu wedi bod yn wych. Mae pawb yn fy nghefnogi 100 y cant. Mae fy nghydweithwyr yn nepo Waterloo, Doc Penfro, hefyd yn llawn cefnogaeth.”

Ers 2017, mae Richard hefyd wedi mwynhau gwirfoddoli ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y Gorllewin: “Mae Richard wedi cefnogi ein helusen am dros ddegawd erbyn hyn. Mae ei garedigrwydd a'i ymrwymiad i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn codi calon. Mae bob amser yn hyfryd clywed gan bobl sydd wedi bod yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r criwiau a oedd wedi achub eu bywydau. Diolch i Richard a'i deulu, ei ffrindiau a'i gydweithwyr sydd wedi cefnogi ei ymdrechion i godi arian dros y degawd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi hyn yn fawr, yn enwedig gan ein bod yn wasanaeth 24/7 erbyn hyn. Mae pob ceiniog a godwn yn hanfodol i sicrhau y gallwn fod yno i bobl mewn angen.”

Bydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth. Ym mis Rhagfyr, llwyddodd yr elusen i wireddu ei gweledigaeth i ddod yn wasanaeth 24/7. Mae'n costio £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr 24/7.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, fel Richard. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref.