Gêm goffa yn codi dros £16,000 i ddwy elusen bwysig Cyhoeddwyd: 01 Awst 2024 Mae gêm rygbi goffa er cof am Huw Howells wedi codi swm anhygoel o £16,200 ar gyfer dwy elusen bwysig. Roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn hynod ddiolchgar o gael ei dewis fel elusen yn y gêm rygbi, a gafodd ei chynnal yng Nghlwb Rygbi Arberth, ochr yn ochr ag Elusen Profedigaeth Sandy Bear. Ar ôl colli Huw, a oedd yn Gymro balch, mewn damwain drasig yn 2020, dymuniad y teulu oedd cynnal gêm goffa ar Faes Lewis Lloyd. Roedd Huw wedi mwynhau ei gyfnod yn chwarae yn Arberth yn fawr. Daeth 70 o chwaraewyr, rhai o'r gorffennol a'r presennol, ynghyd i gefnogi'r gêm goffa lwyddiannus er budd y ddau achos haeddiannol. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Yn dilyn y digwyddiad llwyddiannus, cyflwynwyd sieciau gan deulu Huw i Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru, ac i Karen o Elusen Profedigaeth Sandy Bear. Dywedodd Hannah Bartlett: “Diolch i deulu Huw am godi arian ar gyfer dwy elusen bwysig. Mae'r gêm goffa wedi codi swm anhygoel a dylai teulu a ffrindiau Huw fod yn eithriadol o falch. Mae'n amlwg bod Huw yn ddyn anhygoel, a oedd yn cael ei barchu a'i garu'n fawr. Mae'r gefnogaeth a gafodd y gêm goffa yn profi hyn, ac mae'n deyrnged hyfryd. Diolch i bob un ohonoch am helpu Ambiwlans Awyr Cymru i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cymorth.” Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Hoffai'r teulu ddiolch i bawb am eu cefnogaeth gyda'r gêm goffa. Manage Cookie Preferences