23/07/2020

Mae merch ysgol deg mlwydd oed, sy'n arddwr brwdfrydig, wedi bod yn plannu blodau haul mewn potiau a'u gwerthu er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Bob blwyddyn mae Abigail Davies, o Hwlffordd, yn codi arian er budd elusen, ac eleni mae wedi dewis rhoi'r £160 mae wedi'i gasglu i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Abigail wedi colli cyfrif ar faint o flodau haul mae wedi'u gwerthu, ond mae'n amcangyfrif ei fod yn llawer mwy na 100. Mae wrth ei bodd iddi lwyddo i godi mwy na'i tharged o £150.

Wrth sôn am ei rhesymau dros ddewis codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru eleni, dywedodd Abigail: "Gwnaethon ni ddewis yr elusen hon am ein bod wedi gweld yr hofrennydd yn hedfan uwch ben ein tŷ, a wyddon ni ddim pryd y bydd angen i ni alw ar wasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru.

Dechreuodd Abigail, sy'n ddisgybl yn ysgol baratoi Redhill, godi arian bedair blynedd yn ôl, ac mae wedi cynnig cymorth i blant sâl yn y gorffennol.

Dywedodd ei mam Melanie, yn llawn balchder: “Yn y gorffennol, mae Abby wedi cefnogi'r ward plant yng Nghaerfyrddin. Drwy ei gwaith codi arian, mae wedi prynu cannoedd o weithgareddau celf a chrefft, tedis a pheiriannau DVD cludadwy – pob un yn eitemau roedd eu hangen ar y ward.

“Rwy'n falch iawn o'r ferch ifanc rwyf wedi ei magu. Mae hyn wir yn bwysig iddi, ac nid oedd am adael i'r cyfnod clo ei hatal rhag gwerthu ei blodau haul.

“Mae'r teulu a ffrindiau yn falch iawn o Abby ac maent wrth eu bodd yn ei chefnogi, a chael eu blodau haul blynyddol ganddi.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen: “Diolch o galon i chi, a llongyfarchiadau i Abby am fynd heibio i'w tharged a pharhau i godi arian at achosion da. Rydym wrth ein bodd ei bod wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru eleni. Bydd yr arian a godwyd ganddi yn helpu i gadw ein gwasanaeth sy'n achub bywydau yn yr awyr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru.  Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref – fel Abigail. 

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.