Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru wrthi'n gweithio ar ddadansoddiad manwl o'r radd flaenaf sy'n datgelu y gallai fynychu dros 500 yn fwy o alwadau sy'n achub bywydau ledled Cymru bob blwyddyn.

Mae'r dadansoddiad yn un o'r mwyaf cynhwysfawr a gafodd ei gynnal gan unrhyw ambiwlans awyr yn y byd ac yn edrych ar y defnyddiau mwyaf effeithlon o adnoddau presennol y Gwasanaeth. Dengys y canlyniadau drwy ad-drefnu'r safleoedd a phatrymau shifft meddygon, gellid cyflawni'r canlynol:

· Gallai Ambiwlans Awyr Cymru fynychu hyd at 583 o alwadau ychwanegol bob blwyddyn.

· Bydd pob sir yng Nghymru yn gweld cynnydd yn yr achosion y gall Ambiwlans Awyr Cymru eu mynychu (gweler y tabl modelu data isod).

· Ar hyn o bryd, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cyflawni 72% o'i holl ofynion am ei wasanaeth. Gall hynny gynyddu i 88%.

Dengys y dadansoddiad helaeth nad yw'r gwasanaeth, ar hyn o bryd, yn cyrraedd rhai pobl Cymru o hyd, a hynny oherwydd sawl ffactor. Ar yr un pryd, mae ganddo asedau trafnidiaeth gwerthfawr (hofrenyddion a cherbydau ymateb cyflym) a chlinigwyr medrus iawn nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol. Mae modelu data annibynnol helaeth yn awgrymu mai'r model darparu gwasanaethau mwyaf manteisiol ac effeithlon fyddai:

· Symud criwiau y Trallwng (gan gynnwys yr hofrenyddion a'r cherbydau ymateb cyflym) a'u lleoli, gyda'r rhai yn y gogledd. Dau hofrenydd, dau griw, un lleoliad. Mae'r lleoliad yn y gogledd wrthi'n cael ei drafod.

· Ymestyn oriau gweithredu yn lleoliad hwnnw. Un criw i weithredu 8am tan 8pm a'r llall 2pm tan 2am. Mae'r ddau griw dan sylw wrthi'n gweithredu am 12 awr ar hyn o bryd ond gallai hyn gynyddu i 18 awr, a hynny dros y cyfnodau galw prysur. Felly, bydd gan gleifion yn y gogledd, Powys a Cheredigion sydd â salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd neu rannau o'r corff ar ôl 8pm ymateb mwy lleol yn hytrach na bod angen y criw prysur a leolir dros nos yng Nghaerdydd.

· Sicrhau nad yw'r hofrenyddion yn cael eu cynnal a'u cadw yn ystod yr adegau prysuraf, e.e. yr haf (allan o'n rheolaeth ar hyn o bryd).

· Hofrenyddion dydd i allu gweithreu gyda'r nos er mwyn ein galluogi i weithredu yn ystod y tywyllwch (o doriad gwawr hyd fachlud haul yn ystod sifftiau dydd, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd oriau'r dydd yn fyrrach).

Dywedodd David Gilbert, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen: “Rydym eisoes wedi dechrau'r broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn diweddaru pawb wrth i ni symud drwy'r dadansoddiadau a'r broses gwneud penderfyniadau ond mae'n deg dweud na fyddai unrhyw newid posibl yn digwydd am gryn amser.”

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Drwy'r ymddiriedaeth mae'r cyhoedd wedi ei rhoi ynom dros yr 21 mlynedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i esblygu yn un o'r gweithredoedd ambiwlans awyr mwyaf datblygedig yn Ewrop. Mae gennym hanes o wneud penderfyniadau gyda chleifion a'u teuluoedd wrth wraidd hynny.

“Mae'n bwysig cofio mai ni sydd yn mynd at y claf, yn hytrach na bod y claf yn dod aton ni. Mae tystiolaeth gref yn dangos y bydd pob rhan o Gymru yn elwa o'r newidiadau arfaethedig.

“Ein nod bob amser yw gwneud y defnydd gorau o'n rhoddion drwy fynd at hyd yn oed mwy o bobl mewn angen. Mae pobl wedi ymddiried ynom yn y gorffennol ac rydym wedi darparu ar eu cyfer. Beth bynnag y byddwn yn penderfynu gwneud wrth fynd ymlaen, rydym wir yn gobeithio bydd pobl yn ymddiried ynom unwaith eto.”

Wrth siarad am y rheswm dros y dadansoddiad, dywedodd Dr Barnes: “Dangosodd ein dadansoddiad blaenorol, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ein bod yn darparu safon ardderchog o ofal i bobl Cymru. Mae mwy o bobl yn goroesi oherwydd ein gwasanaeth uwch. Nawr rydym eisiau gwybod p'un a ydym yn darparu'r gofal ardderchog hwn yn gyfartal, ac i gynifer o bobl â phosibl, gyda'r adnoddau sydd gennym ar hyn o bryd.

“Mae'r ambiwlans awyr yng Nghymru yn 21 mlwydd oed ac wedi datblygu gryn dipyn. Mae ein ffocws wedi symud o gael cleifion i'r ysbyty agosaf i gael ein meddygon arbenigol at y claf. Rydym erbyn hyn yn gweithredu ar y ffyrdd yn ogystal ag yn yr awyr. Mae hyn yn hanfodol pan na all yr hofrenyddion hedfan am resymau technegol neu fydd amodau hedfan yn wael. Mae'r lleoliadau presennol yn golygu fod cleifion yn y gogledd a'r canolbarth yn dioddef o'r diffyg darpariaeth amgen o ganlyniad i fynediad gwael ar y ffyrdd – yn wahanol i'n cydweithwyr yn y de.”

“Hefyd, mae angen adnewyddu ein contract hedfan presennol, sy'n cynnig cyfle unwaith mewn degawd i ystyried ein darpariaeth gwasanaeth bresennol. Byddai angen cynnwys unrhyw welliannau gwasanaeth a nodir fel rhan o'r contract gyda'r cynigydd llwyddiannus.”

“Oherwydd y cynnydd cyfredol yng nghostau nwyddau a gwasanaethau, rydym yn disgwyl cynnydd o 30% mewn costau hedfan, felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn defnyddio rhoddion y cyhoedd yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol â phosibl.”

Mae'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru yn bartneriaeth Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus unigrwy rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru. Daethant at ei gilydd yn 2015 i greu'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).

Gall meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol y Gwasanaeth roi triniaethau brys arloesol ledled Cymru, gan gynnwys mân lawdriniaethau, trallwysiadau gwaed ac anesthesia. Nid oedd y rhain ar gael y tu allan i amgylchedd ysbyty yn flaenorol.

Er bod EMRTS Cymru yn cyflenwi'r swyddogion meddygol, mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i ariannu'r hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym ar hyn o bryd.

Ychwanegodd yr Athro David Lockey, Cyfarwyddwr Cenedlaethol EMRTS ac arbenigwr rhyngwladol ar weithredoedd ambiwlans awyr: “O safbwynt y GIG rydym wrth ein bodd bod y data yn awgrymu y gallwn, gydag adnoddau presennol, wella maint darpariaeth y gwasanaeth dros bob rhanbarth yng Nghymru. Bydd cynnydd yn y defnydd a wneir o'r hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym yn ein galluogi i fynychu cannoedd yn fwy o gleifion â salwch critigol neu wedi anafu pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.

“Mae'r data yn dangos yn glir fod gennym bobl ledled Cymru o hyd na allwn eu cyrraedd, oherwydd sawl ffactor, ac ar yr un pryd, mae gennym gludiant a chlinigwyr na chant eu defnyddio ddigon fel yr ydym ar hyn o bryd. Mae angen i hynny newid a gallai canlyniadau'r dadansoddiad hwn ein helpu i ddarparu manteision gwirioneddol i'n cleifion.”

Roedd y dadansoddiad cynhwysfawr o ddata yn cynnwys nifer fawr o ddata ar alwadau a gasglwyd o gronfeydd data EMRTS, yn ogystal â ffynonellau GIG Cymru eraill. Cafodd hwn ei ategu gan y gwerthusiad gwasanaeth pum mlynedd sylweddol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022.

Caiff y data hyn, a rannwyd yn gyfnodau o amser, daearyddiaeth a thymoroldeb, eu rhannu gydag Optima, y cwmni dadansoddi rhyngwladol, a gyflwynodd gyfres o amcanestyniadau.

Mae'r dadansoddiad hefyd yn cynnwys cymorth gan Aeroptimo, y cwmni ymgynghorol hedfan allanol.

Dywedodd Dr Barnes: “Mae hwn yn ddadansoddiad cymhleth ond gyda chanlyniadau clir. Rydym yn croesawu'n fawr, ac yn annog, unrhyw un sydd â chwestiwn i gysylltu â ni yn uniongyrchol er mwyn i ni roi rhagor o wybodaeth am y canfyddiadau.”

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r wybodaeth uchod, e-bostiwch [email protected]