Mae ffair Nadolig rithwir a fydd yn para am bthefnos yn digwydd i godi arian sydd ei angen yn fawr ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r digwyddiad wedi'i sefydlu i gefnogi busnesau bach a fyddai fel arfer yn gwerthu eu heitemau wedi'u gwneud â llaw yn y ffeiriau Nadolig blynyddol, ond oherwydd y pandemig mae'r digwyddiadau hyn wedi'u canslo.

Mae 22 o fusnesau bach o bob rhan o Gymru wedi dod ynghyd i godi arian ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau, gan wneud siopa Nadolig yn haws yn ystod y cyfnod hwn sydd mor ansicr i bawb.

Mae'r ffair Nadolig, a fydd yn cychwyn ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd ac a fydd yn para am bythefnos (tan 5 Rhagfyr), eisoes wedi bod yn boblogaidd ar ôl i rywun werthu rhywbeth yn barod.

Dywedodd Katie Macro, y mae ei busnes ei hun yn cymryd rhan yn y ffair: “Penderfynais drefnu ffair Nadolig rithwir gan fod llawer o ffeiriau Nadolig eleni wedi’u canslo sydd wedi effeithio ar fusnesau bach. Yn wahanol i eraill sy'n cael eu rhedeg, doeddwn i ddim eisiau codi tâl ar bobl a chymryd yr elw, ond yn lle hynny codi arian ar gyfer elusen sy'n agos iawn at fy nghalon.” 

Ymhlith rhai o'r busnesau bach sy'n cymryd rhan mae Katie Macro Creations, Heddfan o Arberth, Y Gegin Maldon, Hannah Bartlett Prints ac Anna Davies Designs.

Yn ogystal â gwerthu eitemau yn ystod y ffair Nadolig, bydd raffl yn cael ei drefnu lle y bydd gan bobl gyfle i ennill gwerth £240 o wobrau anhygoel. Pris y tocynnau yw £2 yr un gyda'r holl elw'n mynd at Ambiwlans Awyr Cymru.

Bydd pob eitem yn cael ei hanfon erbyn y Nadolig, felly mwynhewch nosweithiau'r gaeaf, swatiwch a gwnewch eich siopa Nadolig o gysur eich cartref eich hun.

Gallwch ymweld â'r ffair Nadolig drwy'r grŵp Facebook cyhoeddus – Christmas Virtual Fayre - In Aid of Wales Air Ambulance.

Os hoffech wneud rhodd i'r Ffair Nadolig, sydd hyd yma wedi codi £276 er budd Ambiwlans Awyr Cymru, gallwch wneud hynny trwy ymweld â'r dudalen Just Giving: Katherine's Virtual Christmas Fayre – In Aid of Wales Air Ambulance.

Mae'r trefnydd Katie Macro yn bwriadu rhedeg ffair arall yn y gwanwyn. Os hoffech i'ch busnes gymryd rhan, gallwch anfon e-bost at Katie – [email protected]