Elusen Cymru gyfan yn cyrraedd 50,000 o alwadau Mae gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru wedi cyrraedd 50,000 o alwadau, 23 mlynedd ar ôl i'r Elusen gael ei ffurfio. Mae'r gwasanaeth 24/7 wedi cyffwrdd â miloedd o fywydau ers iddo lansio yn 2001. Mae'r garreg filltir yn tynnu sylw at y cymorth a gafodd yr Elusen dros y blynyddoedd gan bobl Cymru ac mae'r Elusen yn "hynod o ddiolchgar" i'r cyhoedd. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi tyfu o un hofrennydd ym maes awyr Abertawe i'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU, gyda phedwar hofrennydd a fflyd o gerbydau ymateb cyflym. Mae'r gwasanaeth awyr a ffordd yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan roddion y cyhoedd ac mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn nodi'r garreg filltir hon yn llawn diolchgarwch – rydym wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth pawb. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth ac ymrwymiad parhaus ein cefnogwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr, meddygon, peilotiaid a pheirianwyr – yn awr ac yn y gorffennol. "Y tu ôl i bob galwad, mae straeon pobl. Mae'r meddygon sy'n gwasanaethu yn ein cerbydau wedi helpu rhywun mewn angen 50,000 o weithiau. Pan fydd cyn-gleifion a'u teuluoedd yn ymweld â ni, maen nhw'n aml yn dod â'u teulu a'u ffrindiau – a'u plant iau weithiau. Bryd hynny, rydych yn sylweddoli bod effaith ein helusen yn llawer mwy na dim ond y cleifion eu hunain. Rydym hefyd wedi effeithio ar fywydau eu teulu a'u ffrindiau. Mae'n bosibl na fyddent wedi gweld eu hanwyliaid fyth eto oni bai am ein gwasanaeth. "Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r unigolion a'r sefydliadau hynny rydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw yn y gadwyn gofal mewn argyfwng. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a byrddau iechyd Cymru, yn ogystal â'r gwasanaethau brys eraill ledled y wlad. Josh Tayman, un o'r 50,000 o gleifion y mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi eu trin, yr achubwyd ei fywyd ddwy flynedd yn ôl. Diolch i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'i phartneriaid meddygol yn GIG Cymru, Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys, cafodd Josh ofal critigol gan adran achosion brys ar safle'r ddamwain. Dyma stori Josh... Ar 26 Mawrth 2022, roedd Joshua Tayman yn heicio gyda'i ffrind Benjamin Robert yn Eryri pan fu bron i Joshua golli ei fywyd. Wrth iddynt gerdded ar hyd llwybr ar frig rhaeadr, llithrodd Joshua a chwympodd tua 50 troedfedd i mewn i afon yn agos at Raeadr Ewynnol ger Betws-y-coed. Dringodd Benjamin i lawr i'r afon i helpu ei ffrind, a gymerodd tua 5-7 munud, lle y daeth o hyd i Joshua o Ellesmere Port, wyneb i lawr yn y dŵr. Er mwyn ei achub rhag boddi, neidiodd Benjamin i mewn i'r afon a thynnu Joshua allan. Rhoddodd CPR (dadebru cardio-anadlol) i Joshua a'i lusgo ar hyd yr afon lle gwnaeth rhywun a oedd yn mynd heibio, a oedd wrth lwc yn feddyg, barhau â'r CPR. Yn ffodus, ar ôl 10 munud dechreuodd Joshua anadlu ychydig a chyrhaeddodd ambiwlans ffordd, ac Ambiwlans Awyr Cymru wedyn. Y meddygon Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys ar ran Ambiwlans Awyr Cymru oedd y Meddyg Ymgynghorol Gofal Critigol, Gareth Thomas a'r Ymarferydd Gofal Critigol, Ian Thomas. Cyrhaeddodd y tîm ar hofrennydd, a gafodd ei hedfan gan y Peilot Jon Earp. Ar ôl proses hir i'w ryddhau wrth ymyl y rhaeadr, rhoddodd meddygon anesthetig cyffredinol i Joshua a rhoddwyd tiwb anadlu i mewn i'w ysgyfaint a oedd wedi'i gysylltu â pheiriant anadlu. Oherwydd y math o ddigwyddiad a'r posibilrwydd y byddai nifer o anafiadau mewnol sylweddol, rhoddodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru chwe uned o gynnyrch gwaed iddo drwy drallwysiad gwaed. Gwnaethant hefyd atal ei asgwrn cefn rhag symud a rhoi rhwymau pelfig. Fel arfer byddai'r triniaethau gofal critigol uwch a gafodd Josh ar ochr y ffordd ond ar gael mewn adran achosion brys ysbyty yn unig. Diolch i'r bartneriaeth unigryw rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ac EMRTS, cafodd gofal cyn ysbyty ei gynnig i Joshua, a achubodd ei fywyd yn y pen draw. Cafodd ei lapio mewn planced gynhesu a'i hedfan yn uniongyrchol i Ganolfan Trawma Mawr Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke. Yn dilyn asesiad llawn yn yr adran achosion brys a sganiau llawn o'r corff cafodd ei drosglwyddo i'r uned gofal dwys. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n ei gwneud yn llawer mwy tebygol y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar. Mae'r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad. Fel gwasanaeth i Gymru gyfan, bydd y criwiau ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Yn rhyfeddol, gwnaeth Joshua oroesi, ond torrodd ei asgwrn cynffon, a dioddefodd hematoma croen pen parwydol, nifer o gleisiau dros ei gorff cyfan ac anaf 4cm y tu ôl i'w glust chwith. Cadwyd ef mewn coma bwriadol ar beiriant anadlu am dridiau mewn uned gofal dwys, cyn cael ei ddeffro a'i symud oddi ar y peiriant anadlu ar y pedwerydd diwrnod. Yn anhygoel, o fewn ychydig ddyddiau roedd Joshua yn bwyta, yn yfed ac yn cerdded gyda'r ffisiotherapyddion. Dyma pryd y daeth i gyfarfod Nyrs Gyswllt Cleifion Ambiwlans Awyr Cymru, Hayley Whitehead-Wright. Rôl Hayley yw cefnogi cleifion a'u teuluoedd ar ôl digwyddiad sydyn sydd fel arfer yn drawmatig ac yn newid byd. Cafodd ei ryddhau o'r ysbyty i fynd adref ar 1 Ebrill, dim ond chwe diwrnod ar ôl ei ddamwain. Roedd Joshua yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Rwyf wedi gwella'n llwyr ers fy namwain ac mae fy iechyd yn berffaith. Yn gyntaf hoffwn ddiolch i Benji am beryglu ei fywyd ei hun i achub fy mywyd i, a hefyd i bawb yn Ambiwlans Awyr Cymru ac Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke am yr holl ofal a roddwyd i mi. Dywedodd Hayley Whitehead-Wright: “Mae'n hyfryd clywed er gwaethaf cwymp ofnadwy Joshua a'r ffaith y bu bron iddo foddi, ei fod wedi gwella'n rhyfeddol ac ond wedi treulio chwe diwrnod yn yr ysbyty. Roedd yn lwcus iawn fod ei ffrind Benjamin gydag ef ar y diwrnod. “Roedd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu rhoi Joshua i gysgu i amddiffyn ei ymennydd rhag niwed pellach a rhoddwyd chwe uned o waed iddo ar safle'r ddamwain. Dim ond drwy Ambiwlans Awyr Cymru mae modd rhoi anesthetig a thrallwysiad gwaed y tu allan i amgylchedd ysbyty. Sicrhaodd hyn fod Joshua yn cael y gofal gorau posibl cyn cyrraedd y ganolfan trawma mawr yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke.” Ers ei ddamwain, mae Joshua wedi dod yn dad balch i ferch fach ac wedi mynd yn ei flaen i godi arian i'r Elusen a achubodd ei fywyd. Roedd Joshua yn ddiolchgar iawn a dywedodd: “Oni bai am help Ambiwlans Awyr Cymru a phawb arall a wnaeth fy helpu, gan gynnwys Benji, fyddwn i ddim yma heddiw i weld fy merch, fy nghariad, na fy mam. Felly, cafodd effaith ar sawl person, nid yn unig arna i. "Oni bai am y meddygon a ddaeth i fy helpu, a fy ffrind Benji - yn syml, ni fyddwn yn eistedd yma. Rydych yn achub bywydau bob dydd a ni allwn ddiolch digon i chi am hynny. Yn fy marn i, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hollbwysig a byddai llawer o bobl ar goll hebddo.” Er mwyn nodi'r garreg filltir o alwadau, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn gofyn i'w chefnogwyr gefnogi eu hapêl i nodi 50,000 o alwadau, gan alluogi'r Elusen i fod yno i hyd yn oed mwy o bobl mewn angen. Gall £50 helpu i ariannu hyfforddiant hanfodol sy'n galluogi'r peilotiaid i lansio o fewn pum munud i gael galwad yn ystod y dydd. Gall £30 gyfrannu at gyfarpar meddygol sy'n achub bywydau a gall £10 helpu i ariannu tanwydd hanfodol ar gyfer yr hofrenyddion a'r cerbydau ymateb cyflym. Parhaodd Dr Sue Barnes drwy ddweud: "Mae angen i'n gwasanaeth hollbwysig yng Nghymru godi £11.2 miliwn bob blwyddyn er mwyn cadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Ni fyddai hyn yn bosibl heb bobl ymrwymedig Cymru. Mae ein criwiau ar y rheng flaen yn gweithio'n ddiflino i helpu achub bywydau ac i fod yno i bobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. Mae pob un ohonom yn falch o fod yn rhan o wasanaeth anhygoel. "Rydym yn apelio ar ein cefnogwyr i barhau i'n cefnogi er mwyn ein helpu, drwy roi arian i'n hapêl 50,000 o alwadau. Mae pob ceiniog yn cyfrif a bydd yn sicrhau y gallwn wasanaethu'r cleifion sy'n ddifrifol wael neu sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol yn y dyfodol." Manage Cookie Preferences