Mae dynes o Sir Benfro wedi cael ei dewis i gynrychioli Ambiwlans Awyr Cymru yn un orasys mynydd anoddaf y byd.

Roedd yn gystadleuaeth anodd i Sanna Duthie, 35, o Aberdaugleddau, ennill y lle elusennol ar gyfer Ras Cefn y Ddraig Montane, sy'n cwmpasu 236 o filltiroedd o dirwedd mynyddig gwyllt, di-lwybr ac anghysbell Cymru.

Bydd cystadleuwyr y digwyddiad yn rhedeg pellter sy'n cyfateb i 1.5 marathon pob dydd mewn chwe diwrnod, gan gychwyn o Gastell Conwy a gorffen yng Nghastell Caerdydd ddydd Llun 4 Medi i ddydd Sadwrn 9 Medi 2023.

Gwnaeth y rhedwr eithafol, Sanna, greu argraff ar y panel barnu gyda'i hangerdd a'i hymrwymiad a hi yw'r athletwr benywaidd gyntaf i ennill lle elusennol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer y ras anodd.

Roedd y panel yn cynnwys swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru, Tracey Ann Breese, Rheolwr Ymgyrchoedd Katie Macro ac enillwr y lle elusennol llynedd, Richard Gardiner.

Dywedodd Sanna, sy'n gweithio fel gweinyddwr swyddfa, iddo fod yn uchelgais ganddi i gymryd rhan yn Ras Cefn y Ddraig Montane, ond roedd y ffi i gymryd rhan, sef £1,599, yn rhwystr ariannol iddi.

Dywedodd: “Fel rhedwr balch Cymraeg, rwyf wedi bod eisiau rhedeg y ras ers sawl blwyddyn, rwy'n adnabod sawl person sydd wedi cymryd rhan a oedd wedi tanio fy awydd i'w wneud. Rwy'n gweithio fel gweinyddwr swyddfa yn llawn amser ac roedd y tâl mynediad yn ormod i mi yn anffodus.

“Gallaf ddychmygu y buasai treulio wythnos yn rhedeg ar fynyddoedd Cymru yn wyliau ardderchog. Mae meddwl am fod allan ar y mynyddoedd am ddiwrnodau yn teimlo fel rhyddid. Mae cael y cyfle i gymryd rhan yn Ras Cefn y Ddraig Montane fel gwireddu bywyd.

“Mae bod y ferch gyntaf i ennill y lle elusennol yn anhygoel. Mae angen mwy o redwyr eithafol benywaidd arnom.Mae merched mor gryf yn feddyliol, a bydd angen i mi weithio'n galed yn yr her hon.Mae'n fraint fy mod wedi cael fy newis ac mae wedi rhoi hwb mawr i mi yn feddyliol, yn ogystal â'r awydd i hyfforddi'n galetach fyth. ”

Mae Sanna wedi bod yn rhedeg yn eithafol ers 2015 ac wedi ennill llu o rasys. Mae'r rhain yn cynnwys y Gower Ultra, GB Ultra Beacon, The North Canum, Dirty Dozen Back Yard Ultra a'r Preseli Ultra-beast 2022 ac enillodd, gan osod record newydd i ferched ar yr un pryd.

Mae'r athletwraig wedi ymrwymo i godi lleiafswm o £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ac yn gobeithio hyrwyddo ei thaith ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy bodlediad.

Nid yw codi arian i'r Elusen yn rhywbeth dieithr i Sanna wedi iddi godi bron i £5,000 yn 2021 drwy redeg Llwybr Arfordir Sir Benfro i gyd, pellter anhygoel o 186 o filltiroedd, i gyd ar un tro. Nid yn unig y cwblhaodd Sanna yr her, ond cyflawnodd yr amser cyflymaf a wyddwn, sef 51 awr a 30 munud - heb gwsg a dim ond ychydig o doriadau.

Dywedodd: “Roeddem yn dod allan o'r cyfnod clo a llwyddais i gyflawni fy mreuddwyd o redeg Llwybr Arfordir Sir Benfro i gyd. Mae'n debyg mai hwnnw oedd penwythnos gorau fy mywyd.

“O ganlyniad hwnnw ymddangosais ar sioeau radio Cymru a chefais fy nghyfweld ar sawl podlediad a siaradais ychydig mewn ysgolion lleol. Cefais gynnig hyd yn oed i ymuno â'r panel barnu ar gyfer Ras Cefn y Ddraig Montane Ambiwlans Awyr Cymru y llynedd.

“Gofynnais am gael fy noddi a llwyddais i godi bron i £5,000 i Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n elusen sy'n agos iawn i'm calon. Mae'r gwasanaeth yn brysur iawn yn ein cymuned. Mae Sir Benfro yn wledig iawn ac nid yw'r cysylltiadau ffyrdd yn dda. Mae'n elusen y mae pobl yn ein rhanbarth yn gofalu amdani ac eisiau ei chefnogi.

Dywedodd Sanna y byddai cwblhau Ras Cefn y Ddraig Montane yn uchelgais yn ei bywyd ac mae ganddi gynllun hyfforddi yn barod ar waith ar gyfer y ras.

Dywedodd: “Mae fy stumog i'n troi yn meddwl amdano. Bydd wir yn gwireddu fy mreuddwyd ac mae'r gallu i wneud hyn a chodi arian i Ambiwlans Awyr Cymru wir yn ei wneud yn fwy arbennig.

“Byddwn i'n dweud fy mod yn berson emosiynol, a gall hynny yn aml ymddangos fel rhinwedd drwg, ond rwy'n credu ei fod yn fy ngwneud yn rhedwr eithafol da. Rwy'n helpu ac yn rhoi cymorth i bobl ac mae hefyd yn golygu pan fyddaf yn gosod nod, byddaf yn trio fy ngorau. Rwyf wir yn gobeithio na fyddaf yn eich siomi.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n cynnig gofal critigol ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaeth Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n bleser gen i ddweud ein bod wedi gallu cynnig lle i Sanna yn Ras Cefn y Ddraig Montane eleni. Roedd yn amlwg o'i chais ei bod hi'n gwbl ymroddedig i redeg ac i gwblhau'r ras, fel nod personol ac i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Gwnaethom dderbyn nifer o geisiadau cadarn a hoffem ddiolch i bawb am anfon eu fideos atom. Edrychaf ymlaen at weld a gallu cefnogi taith Sanna ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar ei bod wedi dewis cefnogi ein Helusen am yr ail dro.”

I gefnogi Sanna ewch i'w thudalen Just Giving, https://www.justgiving.com/fundraising/sanna-duthie3