Mae dyn o Sir Fflint yn anelu i rhoi nol i’r elusen a wnaeth achub ei fywyd gan ddilyn damwain difrifol.

Cafodd Mark Steene o Lanfynydd yn Sir Fflint ei hachub gan Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl gwrthdrawiad difrifol yn agos i Langollen pedwar blynedd yn ôl.

Cafodd y dyn sydd yn 51 ei hedfan gan yr elusen i’r Ganolfan Trawma Difrifol yn Ysbyty Brenhinol Stoke.

Pryd gyrhaeddodd y beiciwr yr ysbyty daeth difrifoldeb ei anafiadau i’r amlwg. Treuliodd Mark deg mis yn yr ysbyty gan ddioddef tri thrawiad ar y galon, saith lawdriniaeth fawr a deuddeg therapi amgen.

Ar ôl siwrne hir i iechyd gwell, mae Mark wedi’i adael yn cwadriplegig, ond nad yw ei anabledd yn mynd i rhwystro fo rhag dweud diolch i’r criw ambiwlans awyr a wnaeth achub ei fywyd.

Yn siarad am ei phrofiad newid bywyd dywed Mark: “Pryd digwyddodd y damwain, cefais fy hedfan i’r ysbyty felly mae 'na elfen o eisiau dweud diolch. Cyn fy namwain roeddwn yn berson llawn egni ac yn hoff iawn o ymarfer corff. Roeddwn i yng nghanol hyfforddi am y Tour de France pryd digwyddodd y damwain.”

Mae Mark bellach yn dibynnu ar ofalwyr i’w helpu gan gynnwys un yn bennaf – Darek Kowalewski. Mae’r ddau wedi dod yng nghyfeillion agos ac wedi cynllwynio hanner marathon o Fae Penrhyn i Rhyl er budd Ambiwlans Awyr Cymru fis Medi yma.

“Mae hi wedi bod yn anodd iawn, ryw’n ceisio cael fy rhuthr adrenalin trwy fyrdd gwahanol. Mewn ffordd mae hi’n helpu fi trwy helpu Darek oherwydd dwi’n gallu awgrymu’r llwybrau gorau iddo fo ddefnyddio yn ystod yr hanner marathon. Rydym wedi penderfynu bydd y digwyddiad sydd yn debyg i Ŵyl Rhedeg Yr Arfordir Anturio yn digwydd ar Ddydd Sadwrn, Medi’r 14eg.”

“Bydd yr hanner marathon yn gweld Darek yn rhedeg o gapel St Trillo yn Nhreffynnon ar hyd yr arfordir hardd Gogledd Cymru cyn cyrraedd y diwedd yn Gylch Eisteddfod Rhyl.”

“Gredaf fod y pellter llawn y llwybr yw 20.5 km, ond mae 'na ardal o gwmpas cerrig le gallem wneud cwpl o lapiau er mwyn cyrraedd y 21.1km i wneud hi yn hanner marathon go iawn. Y cynllun yw cael ofalwyr eraill ynghyd a ffrindiau i ymuni efo Darek yn ystod y ras. Rwyf fy hun yn obeithiol o wneud un neu ddwy lap o gwmpas y cerrig cyn diwedd y marathon.” 

Tra bydd Darek yn taclo’r sialens yng Ngogledd Cymru, 232 o filltiroedd i’r Dde bydd nai Mark, Beth yn taclo’r union un sialens ar wal ddringo yng Nghanolfan Dringo Castell yn Llundain. Bydd y ddwy sialens yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd ac yn do di gyfanswm pellter hanner marathon yr un.

Dywed Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru AAC, Lynne Garlick: “Hoffem estyn pob lwc mawr i Mark, Darek a Beth ar gyfer y sialens. Mae Mark yn ysbrydoliaeth lwyr i bawb ac rydym yn hynod o ddiolchgar am ei gefnogaeth. Er ei anabledd mae Mark yn dangos bod unrhywbeth yn bosib pryd rydych chi yn rhoi ei feddwl ati.”

Darganfyddwch mwy am sialens Mark yma