Gall cefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru ddyblu eu rhoddion Nadolig wrth i'r Elusen gymryd rhan yn ymgyrch arian cyfatebol mwyaf y DU, The Big Give Christmas Challenge 2022. 

Am y tro cyntaf erioed, mae'r Elusen sy'n achusb bywydau wedi cofrestru i'r Her Nadolig, sy'n lansio am hanner dydd ddydd Mawrth 29 Tachwedd 2022 a bydd yn rhedeg am saith diwrnod tan hanner dydd ddydd Mawrth 10 Rhagfyr 2022. 

Mae The Big Give’s Christmas Challenge yn ymgyrch codi arian cyfatebol blynyddol sy'n cyfateb y rhoddion a ddarperir gan ddwy ffynhonnell. Bydd elusennau'n sicrhau rhywfaint o'u harian cyfatebol eu hunain a fydd yn cael hwb gan gronfeydd Hyrwyddwr Big Give fydd yn cyfrannu at y pot arian cyfatebol.  

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn hynod ddiolchgar i dderbyn arian cyfatebol gan Ashmole & Co a The Charles Hayward Foundation sy'n cael ei hyrwyddo a'i hybu gan Candis Club.  

Drwy gydol yr wythnos, caiff unrhyw roddion a wneir eu dyblu a fydd yn gwneud gwahaniaeth mwy fyth i'r Elusen sy'n achub bywydau. Felly, os byddwch yn rhoi £10, caiff eich rhodd hael ei ddyblu i £20 – un rhodd, dwbl yr argraff. 

Rhaid i'r rhoddion gael eu gwneud trwy dudalen we ymroddedig Christmas Challenge (https://donate.thebiggive.org.uk/campaign/a056900002M5LlTAAV), ni fydd unrhyw roddion a wneir trwy wefan Ambiwlans Awyr Cymru yn cael arian cyfatebol. 

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn The Big Give's Christmas Challenge am y tro cyntaf eleni.  

“Mae'n gyfle gwych i'n cefnogwyr helpu i gael yr effaith fwyaf posibl o'u rhoddion hael i Ambiwlans Awyr Cymru. Drwy roi rhodd rhwng Tachwedd 29 a Rhagfyr 6, bydd yn ein galluogi i sicrhau bydd y rhoddion yn mynd ymhellach.” 

Mae Ambiwlans Awyr Cymru angen codi £8 miliwn yn flynyddol i ddarparu gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywydau. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi.  

Bydd yr arian a godir yn yr Her Nadolig yn mynd at gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Thema Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer yr Her Nadolig yw ‘Ein Harwyr Nadolig’. Bydd yr Elusen yn amlygu meddygon, peilotiaid, dyranwyr a chriw, a fydd i gyd wrth law, yn barod i ddarparu ymyriadau gofal critigol i'r sawl sydd mewn angen dros dymor y Nadolig. 

Tra bydd llawer o bobl gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid y Nadolig hwn, bydd Ambiwlans Awyr Cymru yn parhau i wasanaethu pobl Cymru. Nid Siôn Corn fydd yr unig un fydd yn gweithio dros y Nadolig. 

I gefnogi ‘Ein Harwyr Nadolig’ ewch i https://donate.thebiggive.org.uk/campaign/a056900002M5LlTAAV  rhwng dydd Mawrth 29 Tachwedd a hanner dydd ddydd Mawrth 6 Rhagfyr.