Mae Domino's Pizza yn Llanelli wedi cofrestru i gymryd rhan yn ymgyrch codi arian Fy20 Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dathlu pen-blwydd yr Elusen yn 20 oed.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed ar 1 Mawrth ac, i gydnabod y garreg filltir, mae wedi creu digwyddiad codi arian newydd, sef Fy20. Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ddewis eu her, tasg neu weithgaredd eu hunain fydd yn ymwneud â'r rhif ‘20’ i'w gwblhau yn ystod mis Mawrth.

Bydd y bwyty yn Stryd y Bont, Llanelli, yn rhoi'r swm o arian a gaiff ei wario ar bob ugeinfed archeb am gyfnod o 20 diwrnod ym mis Mawrth i'r elusen sy'n achub bywydau.

Rhoddwyd cychwyn ar yr ymgyrch codi arian ddydd Llun 1 Mawrth a'r gobaith yw y bydd modd codi £250. Dyma'r tro cyntaf i gangen Llanelli o Domino's Pizza, sy'n grŵp o fasnachfreintiau a gaiff ei redeg gan deulu, gyfrannu at ymgyrch codi arian i'r Elusen ac mae'r tîm ‘yn edrych ymlaen at ei wneud’.

Wrth siarad am y rhesymau pam roedd y bwyty yn awyddus i gymryd rhan yn ymgyrch codi arian Fy20 yr Elusen, dywedodd Chelsea Nicholas, Cynorthwyydd Marchnata CRS Pizzas: “Rydym wedi penderfynu cymryd rhan am ein bod yn meddwl bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gwneud gwaith anhygoel i’w gleifion. Fel tîm, rydym yn teimlo bod yr Elusen bob amser yn ceisio ei gorau i wella'i chyfleusterau er mwyn cefnogi'r genedl. Mae hyn yn amlwg o'i dyfalbarhad, a'r amser y mae'n ei dreulio er mwyn gallu cynnig gwasanaeth 24/7. 

“Elusen annibynnol yw Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dibynnu'n llwyr ar roddion elusennol i sicrhau bod yr hofrenyddion yn parhau i weithredu. Mae hwn yn waith tîm anhygoel, sy'n creu awyrgylch caredig i bawb.

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn yn ein barn ni, am ei fod yn wasanaeth mor unigryw, a byddai llawer o bobl ar goll hebddo. Ei brif nod yw darparu gwasanaeth awyr er mwyn helpu pobl sy'n wael neu wedi'u hanafu pryd bynnag y bydd ei angen. Nid oes modd gofyn llawer mwy o'r tîm. Daliwch ati i achub bywydau!”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-orllewin:  “Diolch yn fawr iawn i bawb yn Domino's Pizza yn Llanelli am gymryd rhan. Am syniad gwych i godi arian i ymgyrch My20 yr Elusen. Mae Domino's Pizza bob amser yn boblogaidd, ac rydym yn gobeithio y  bydd y cyhoedd yn ymuno yn yr ymgyrch codi arian a gwledda ar bitsas blasus ym mis Mawrth.

“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y staff yn mwynhau Fy20. Rydym wir yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth, yn arbennig am ein bod bellach yn wasanaeth 24/7. Mae pob ceiniog a godwn yn hanfodol i sicrhau y gallwn fod yno i bobl mewn angen.”