Mae disgyblion o Ysgol Bro Ingli wedi camu ymlaen i godi swm gwych o £1,610 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Aeth disgyblion yr ysgol yn Sir Benfro ati i godi'r arian drwy gwblhau taith gerdded noddedig o amgylch tref ac arfordir Trefdraeth, ar ôl i feddygon yr elusen gael eu galw i helpu rhywun roeddent yn ei adnabod, ac roedd yr ysgol am helpu'r elusen sy'n agos at ei chalon.

Cymerodd tua 90 o ddisgyblion ran yn yr ymgyrch codi arian – cerddodd y plant hŷn 4 milltir, a cherddodd y rhai iau dros filltir.

Dywedodd aelod o Gyngor Ysgol Bro Ingli, a oedd ar ben ei ddigon: “Gwnaeth yr ysgol godi'r arian drwy gymryd rhan mewn taith gerdded noddedig o amgylch Trefdraeth. Cerddodd a cherddodd pob dosbarth nes ein bod wedi blino'n lân. Roedd yr holl chwys a'r coesau blinedig yn werth y drafferth oherwydd yr holl arian a gasglwyd gan bawb.”

Dywedodd Enfys Howells, Pennaeth balch Ysgol Bro Ingli: “Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu helpu achos mor wych, a dyma'r swm mwyaf o arian rydym erioed wedi ei godi ar gyfer elusen, felly rydym ni'n falch dros ben.”

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'i Cherbydau Ymateb Cyflym ar y ffyrdd.

Y daith gerdded noddedig hon oedd y tro cyntaf i'r ysgol godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ond ‘yn sicr, nid hwn fydd y tro olaf’. Bydd Ysgol Bro Ingli yn meddwl am ‘fwy o syniadau blaengar’ i helpu i godi arian yn y dyfodol. Roedd y plant a gymerodd ran yn y daith gerdded noddedig rhwng 3 ac 11 oed.

Mae'r ysgol yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y mae wedi'i chael gan deuluoedd y plant, ac ychwanegodd Enfys: “Gwnaeth pob teulu gyfrannu rhywbeth tuag at yr achos gan ei bod yn elusen sy'n agos at galonnau pawb. Ni ŵyr neb pryd y bydd angen help gan Ambiwlans Awyr Cymru arnynt.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r plant wedi gwneud yn wych i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Gwnaethant gerdded a cherdded o amgylch Trefdraeth ac, er bod eu coesau'n flinedig, mae eu hymroddiad a'u hymrwymiad i godi arian i'r elusen a helpodd rywun roeddent yn ei adnabod, yn amlwg. Maent wedi codi swm anhygoel o £1,610 i'n gwasanaeth sy'n achub bywydau.

“Rydym yn ymateb i lawer o argyfyngau sy'n peryglu bywydau ac yn achosi anafiadau gwael yn rheolaidd yn Sir Benfro. Mae rhoddion fel hyn yn hanfodol a gwyddom pa mor bwysig yw ein gwasanaeth, yn enwedig i ardaloedd gwledig. Drwy gadw ein hofrenyddion yn yr awyr, gallwn barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.

“Rydym wrth ein bodd o glywed bod yr ysgol yn awyddus i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru eto yn y dyfodol. Diolch yn fawr, bawb.”