Digwyddiad poblogaidd ‘Gerddi Agored’ yn codi £2,400 i elusen Cyhoeddwyd: 01 Awst 2024 Daeth llawer o ymwelwyr i fwynhau'r digwyddiad poblogaidd gerddi agored ym mhentref Pentyrch. Bob blwyddyn, mae pobl leol yn agor eu gerddi er mwyn i ymwelwyr grwydro drwy amrywiaeth o erddi o wahanol feintiau ac arddull a golygfeydd godidog, sy'n dangos brwdfrydedd a gwaith caled y perchnogion. Mae'r digwyddiad blynyddol yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn ogystal â phrosiectau sy'n gwella agweddau ar gymuned ac amgylchedd Pentyrch. Bob blwyddyn, mae'r digwyddiad fel arfer yn codi rhwng £1,500 i £2,500 ac mae wedi codi cyfanswm o tua £150,000. Eleni, sef y 24ain flwyddyn i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal, llwyddwyd i godi cyfanswm o £2,400 i'r Elusen sy'n achub bywydau. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch i'r holl arddwyr sy'n gweithio'n hynod galed drwy'r flwyddyn er mwyn paratoi eu gerddi at y digwyddiad i godi arian i'r Elusen a'r pentref. Caiff eich gwaith caled ei werthfawrogi'n fawr. “Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Drwy godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, mae'r trefnwyr a'r ymwelwyr a ddaw i Erddi Agored Pentyrch yn ein helpu i godi'r arian sydd ei angen arnom yn fawr. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth barhaus.” Mae'r trefnwyr, y garddwyr a'r ymwelwyr yn edrych ymlaen at ddathlu 25 mlynedd o Erddi Agored Pentyrch flwyddyn nesaf. Manage Cookie Preferences