Mae côr newydd yng Ngogledd Cymru wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel ei elusen genedlaethol y flwyddyn ar gyfer 2021/22.

Ym mis Rhagfyr 2020, yn ystod cyfyngiadau'r coronafeirws, daeth Encôr at ei gilydd am y tro cyntaf i ymarfer yn yr awyr agored ar feinciau pêl-droed Nantporth, Bangor.

Arweinydd y côr, Kiefer Jones, sy'n trefnu'r repertoire o ganeuon Cymraeg a Saesneg i godi'r galon, gan gredu bod canu gyda'i gilydd yn dda i'r enaid a llesiant.

Dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen y flwyddyn am fod rhai aelodau'n adnabod pobl oedd wedi defnyddio'r gwasanaeth, ac am fod yr elusen sy'n achub bywydau yn rhan mor bwysig o'n cymuned.

Yn ddiweddar, cynhaliodd côr Encôr ei ddigwyddiad elusennol cyntaf ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a'r elusen leol, Gafael Llaw, sy'n cefnogi plant sy'n dioddef o ganser yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Cynhaliwyd perfformiad mawr cyntaf y côr ar Bier Bangor ar brynhawn heulog ar 4 Medi, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Mae'r arian a godwyd ar y diwrnod yn dal i gael ei gyfrif.

Dywedodd Ruth Williams, llefarydd ar ran Encôr: “Gwnaethon ganu yn yr heulwen braf yn ystod ein perfformiad prynhawn cyntaf ar Bier Bangor. Roedd yn lleoliad awyr agored anhygoel a mwynhaodd y cantorion berfformio i gynulleidfa werthfawrogol a oedd wrth eu bodd â'r amrywiaeth o ganeuon llawn hwyl.” 

Mae Encôr yn ymarfer bob nos Fercher, ac mae cyfyngiadau'r llywodraeth wedi pennu faint o bobl sydd wedi cael mynychu'r ymarferion.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Alwyn Jones, Swyddog Codi Arian Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y gogledd: “Diolch o galon i Encôr am eich cefnogaeth werthfawr. Rydym wrth ein bodd bod Encôr wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn elusen y flwyddyn, 20 mlynedd ers ei sefydlu. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr iawn a bydd yn ein helpu i achub bywydau ledled Cymru. Diolch yn fawr.”

Mae'r côr yn croesawu aelodau newydd 18+ oed sy'n frwd dros ganu. Os hoffech ymuno â'r côr, e-bostiwch [email protected]

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.