Digwyddiad codi arian 72 o dyllau mewn un diwrnod i'r Elusen Cymru gyfan Ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn, gwnaeth grŵp o olffwyr o Glwb Golff Trefynwy ymgymryd â her epig 72 o dyllau ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Nid dyma'r tro cyntaf i'r grŵp dïo'r bêl er mwyn codi arian i'r Elusen. Ers y digwyddiad cyntaf ddwy flynedd yn ôl, mae'r grŵp wedi codi dros £10,000. Dywedodd un o'r trefnwyr, Dave Wilding: “Pan awgrymodd Capten ein Clwb y dylem gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, cafodd gefnogaeth lawn gennym. Mae'r hyn y maent yn ei wneud yn gwbl anhygoel. Maent yn hedfan i'r digwyddiad i ddarparu gofal meddygol yn y fan a'r lle, ac yn sicrhau bod y claf yn cael ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth iechyd frys. “Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen ambiwlans awyr arnoch, yn enwedig ni fel golffwyr ar y cwrs. “Gall rhai ardaloedd fod yn anodd eu cyrraedd o bydd achos iechyd brys weithiau – felly mae'n rhoi tawelwch meddwl o wybod y gallai'r tîm gyrraedd rhywun mewn cyflwr difrifol.” Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Gwnaeth golffwyr ledled y DU ymgymryd â'r her, ond nid her i'r gwangalon ydyw. Parhaodd Dave drwy ddweud: “Mae'n her genedlaethol. Mae llawer o bobl yn cymryd rhan ynddi ac mae'n anodd iawn. Gwnaethom gerdded dros 22 o filltiroedd a dringo dros 3,000 troedfedd - uchder yr Wyddfa! “Roeddem am godi cymaint ag y gallwn i gefnogi gwaith Ambiwlans Awyr Cymru.” Cafodd y digwyddiad codi arian 72 o dyllau ei drefnu er cof am David Uttley, cyn is-gapten Clwb Golff Trefynwy a fu farw yn 2022. Parhaodd Dave drwy ddweud: “Gwnaeth gwraig David, Louise, gerdded y rownd gyntaf gyda ni, a rhoddodd Capten ein Clwb, Jon Davies, Rheolwr ein Clwb, Emma Henry a Jon Jones gymorth drwy gydol yr her, a oedd yn anhygoel. “Roedd hefyd yn ddigwyddiad arbennig i un o aelodau hynaf ein grŵp, y cyn-gapten a'r llywydd, Garth Lamb, sydd newydd droi'n 72. “Cawsom fochyn rhost ar ddiwedd y dydd gyda nifer o aelodau a chefnogwyr yn bresennol.” Mae'r tîm wedi codi bron i £4,000 drwy ei dudalen Just Giving ac yn gobeithio cyrraedd £5,000. Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei fflyd o hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Dywedodd Abi Pearce, Swyddog Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer De Ddwyrain Cymru: “Diolch enfawr i Glwb Golff Trefynwy am gynnal y digwyddiad codi arian arbennig iawn hwn er cof am David Uttley.” “Mae'n wych ein bod wedi cael ein dewis fel elusen eleni ac mae'n hyfryd iawn bod cynifer o bobl wedi cefnogi'r digwyddiad hwn. “Nid yw pedwar rownd yn her hawdd, ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran ac i'r tîm cymorth am eu cefnogi! “Digwyddiadau codi arian fel hyn sy'n gyfrifol am sicrhau y gallwn gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.” Dywedodd Dave i gloi: “Mae pobl wedi bod mor hael ers i ni ddweud wrthynt ein bod yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. “Mae gennym ffurflenni noddi ychwanegol o amgylch y clwb, a siroedd yr holl chwaraewyr unigol. Ni fydd gennym syniad iawn o'r hyn rydym wedi'i godi am wythnos neu ddwy arall Ond o'r hyn rydym wedi'i godi hyd yn hyn, rwy'n meddwl ein bod ar y ffordd i gyrraedd £5,000 eto.” Os hoffech gefnogi'r her epig yma, ewch i JustGiving Clwb Golff Trefynwy. Manage Cookie Preferences