Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru i fod yn elusennau'r flwyddyn.

Bydd y ddau achos pwysig yn cael budd o'r arian a godir gan staff yn ystod cyfnod o ddwy flynedd ar ôl i fwy na 850 o aelodau o'r staff gael eu gwahodd i enwebu elusennau a oedd yn agos at eu calon.

Lluniwyd rhestr fer o'r awgrymiadau mwyaf poblogaidd a phleidleisiodd y staff dros eu dewis elusen.

Dywedodd Diane Barnes, Uwch Weinyddwr yn Wales & West: “Ambiwlans Awyr Cymru a Beiciau Gwaed Cymru oedd y dewisiadau mwyaf poblogaidd.

“Roedd un aelod o'r staff a enwebodd Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael profiad personol o'r gwasanaeth ar ôl i un o'r preswylwyr hŷn a oedd yn byw yn y cynllun tai y mae'n ei reoli fynd yn sâl.  Aeth Ambiwlans Awyr Cymru â hi i'r ysbyty ac, yn ôl ein haelod o staff, doedd dim amheuaeth bod y gwasanaeth cyflym a gafwyd wedi bod yn hollbwysig wrth achub bywyd y person, felly mae'n bleser gennym gefnogi gwaith hanfodol yr Elusen.”

Nid dyma'r tro cyntaf y mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru – codwyd mwy na £6,000 i'r Elusen yn 2006.

Ymhlith yr elusennau eraill y mae'r gymdeithas wedi'u cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf mae Ymchwil Canser Cymru, Y Gymdeithas Strôc, Help for Heroes, Cymdeithas Alzheimer's, NSPCC, Tenovus a Chŵn Tywys.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Wrth siarad am ba mor werthfawr y mae'r gwasanaeth achub bywydau ym marn y cwmni, ychwanegodd Diane: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn. Mae'n achub bywydau bob diwrnod o'r flwyddyn. Pan wnaethon ni ddysgu bod y gwasanaeth yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd i gadw eu hofrenyddion brys yn hedfan ym mhob rhan o Gymru, roedd ein staff yn awyddus i helpu i gefnogi'r Elusen a gwneud gwahaniaeth drwy godi arian dros y ddwy flynedd nesaf.”

Dechreuodd y staff godi arian drwy gynnal raffl wyau Pasg, a gododd fwy na £400.

Dywedodd Diane: “Mae gennym bobl yn rhedeg marathonau, yn gwneud heriau noddedig ac yn pobi cacennau dros y misoedd nesaf ac rydym yn edrych ymlaen at gael llawer o syniadau ac awgrymiadau eraill arloesol, llawn hwyl am ddigwyddiadau codi arian y gallwn gymryd rhan ynddynt a'u cefnogi dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaethom hefyd ofyn i'r staff roi ychydig geiniogau o'u cyflog i'n helusen. Drwy wneud hyn, gallwn godi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn heb orfod gwneud unrhyw beth!

“Yn y gorffennol, rydym wedi cynnal rafflau rheolaidd yn ein swyddfeydd, gwerthiannau cacennau, diwrnodau gwisgo'n hamddenol a digwyddiadau arbennig fel her seiclo elusennol Ride the Nation o'r gogledd i'r de a thwrnamaint rygbi a helpodd i godi arian i elusen staff flaenorol, sef Age Cymru.”

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel un o elusennau'r flwyddyn Cymdeithas Tai Wales & West ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Mae cefnogaeth busnesau fel Wales & West yn hanfodol i'n helpu i fod yno i bobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.

“Mae'n ymddangos bod ganddynt gynlluniau codi arian cyffrous yn yr arfaeth a dymunwn yn dda iddynt. Rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae'r busnes yn ei roi i'n helusen achub bywydau yn fawr.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.

I gael rhagor o wybodaeth am Gymdeithas Tai Wales & West, ewch i wwha.co.uk