Mae gŵr o'r Rhondda wrthi'n rhedeg bob dydd ym mis Hydref, yn cynnwys tri hanner marathon er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Dale Beacham, 34 o'r Porth, wedi gosod her iddo'i hun a fyddai'n codi ofn ar y rhan fwyaf o bobl, ond mae Dale eisoes wedi cyflawni'r her enfawr hon unwaith y llynedd.

Eleni, roedd Dale yn awyddus i redeg yr her 200km i elusen ar ôl i Ambiwlans Awyr Cymru gael ei alw i helpu ei fodryb, Keryl Kinder, a fu farw ym mis Gorffennaf yn anffodus.

Dywedodd Dale: “Dewisais godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru gan fod fy modryb wedi cael gwaedlif enfawr ar yr ymennydd ym mis Gorffennaf a chafodd yr ambiwlans awyr ei alw. Yn anffodus, ni lwyddwyd i'w hachub, ond diolch i ymateb cyflym y meddygon, llwyddodd ei phlant a'i gŵr ffarwelio â hi am y tro olaf yn yr ysbyty. Felly, yr her hon i godi arian yw fy ffordd i a'm teulu i ddweud diolch.

Mae Dale, sy'n gweithio i ffatri golur ac yn astudio'n rhan amser gyda'r Brifysgol Agored, fwy na hanner ffordd drwy ei her.

Ychwanegodd yr aelod o Glwb Rhedeg Lonely Goat: “Dydw ddim wedi blino gormod, rwy'n teimlo'n wych. Rwyf wedi cyrraedd 85 milltir ac mae wedi helpu fy rhedeg hefyd. Rhedais fy amser gorau erioed yn hanner marathon Abertawe, sef 1:54:00, sydd fwy na dau funud yn gyflymach na fy hanner marathon diwethaf. Yr wythnos hon, rwy'n rhedeg yn araf am filltir neu ddwy ar y tro yn barod ar gyfer marathon Casnewydd.

Hyd yma, mae Dale wedi codi £260 o'i darged i godi £500, a'i nod gwreiddiol oedd rhedeg 200km, ond gan ei fod wedi ychwanegu Hanner Marathon Llanelli at ei her – bydd wedi rhedeg pellter anhygoel o 130 milltir erbyn diwedd y mis!

Mae Dale wedi cael cefnogaeth wych gan ei deulu, ei ffrindiau a'i glwb rhedeg drwy gydol ei her.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.  

Dywedodd Elin Murphy, Cydlynydd Codi Arian Cymunedol yr Elusen: “Mae'n galonogol clywed y rheswm y tu ôl i her Dale. Mae Dale wedi gosod her enfawr iddo'i hun i redeg 130 milltir o fewn y mis, sy'n cynnwys tri hanner marathon. Mae'n amlwg ei fod yn benderfynol i godi arian ac rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer gweddill ei her drwy gydol y mis. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at her codi arian Dale.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Dale drwy gyfrannu at ei dudalen Just Giving ‘Dale's Running every day of October’

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.