Bydd Cyngerdd Elusennol Mawreddog Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yn dychwelyd i'r llwyfan fis nesaf gyda'r cantorion pop-glasurol Cymraeg o fri, Richard ac Adam.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i Gyngerdd Elusennol Mawreddog yr hydref gael ei gynnal ym mis Hydref 2020, ond mae bellach wedi cael ei aildrefnu ar gyfer dydd Sadwrn 9 Hydref yn Theatr y Follies, Folly Farm.

Bydd gwesteion arbennig yn perfformio yn y gyngerdd – Côr Meibion Hendy-gwyn ar Daf ac enillwyr Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Rotari Sir Benfro.

Cyrhaeddodd Richard ac Adam rownd derfynol Britain's Got Talent yn 2013, lle y gwnaethant berfformio eu fersiwn bop-glasurol o 'The Impossible Dream'.

Gwnaeth y rhaglen eu sefydlu fel dau o gantorion opera gorau'r wlad.

Mae'r ddau wedi enwi eu 'Mam-gu' fel y dylanwad mwyaf arnynt. Pan oeddent yn ifanc, byddai'n chwarae cerddoriaeth Enrico Caruso, Mario Lanza a The Three Tenors ac yn eu hannog i gyd-ganu, gan fagu eu hyder a'u hannog i ddilyn gyrfa mewn canu opera.

Dywedodd John Hughes, Cadeirydd Pwyllgor Codi Arian Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf: "Rydym wrth ein bodd bod ein cyngerdd eleni yn codi arian ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at noson gofiadwy, ac at weld pob un ohonoch chi yno."

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Dywedodd Katie Macro, cydgysylltydd codi arian cymunedol: "Rwyf wrth fy modd y bydd y Cyngerdd Elusennol Mawreddog, a gafodd ei ohirio y llynedd, yn cael ei gynnal fis nesaf. Bydd y gynulleidfa'n cael gwledd o gerddoriaeth glasurol gan y cantorion pop-glasurol Richard ac Adam, ac yn mwynhau amrywiaeth o ddoniau lleol hefyd. Bydd yn noson wych.

"Diolch i Glwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf am godi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r Elusen yn ymateb i argyfyngau sy'n peryglu bywyd ac yn achosi anafiadau gwael yn rheolaidd yn ardal Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae digwyddiadau elusennol o'r fath yn codi arian hollbwysig i sicrhau y gall ein gwasanaeth pwysig barhau i fynd â'r adran achosion brys at y claf, gan arbed amser ac achub bywydau.”

Mae'r tocynnau'n costio £30 yr un ac ar gael ar-lein* yma.  

Gallwch hefyd brynu tocynnau o Rock 'n Rolla Boutique, Arberth, Dales Music, Dinbych-y-pysgod a Creative Café, Hwlffordd.

*Mae tocynnau ar-lein yn destun ffi archebu fach

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.