25/08/2020

Mae athro ysgol sydd wedi ymddeol yn bwriadu cerdded 1047 o filltiroedd o gwmpas Cymru mewn llai na 70 diwrnod i godi arian ar gyfer dwy elusen.

Bydd Huw Evans, o Landudoch, yn cychwyn ar ei daith wythnos nesaf (dydd Mercher, 26 Awst) ar ei her 'Route 66 Cymru Wales', gan gerdded o gwmpas Cymru ar hyd llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa.

Ac yntau'n anelu at godi £5,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a'r RNLI, bu'n rhaid i Huw (sy'n dad-cu i ddau) ohirio'r her hon oherwydd COVID-19. 

Wrth feddwl am yr her sydd o'i flaen, dywedodd Huw: “Rwy'n ei galw'n 'ROUTE 66 CYMRU WALES' oherwydd dyna fy oedran!

“Byddaf yn dechrau ar Draeth Poppit ger Aberteifi ac yn cerdded tua'r gogledd i gyfeiriad clocwedd, gan gynnwys Ynys Môn ar y daith. Rwy'n gobeithio cwblhau'r daith gerdded a dychwelyd i Poppit mewn llai na 70 diwrnod.”

Mae Huw, sy'n hanu o Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn awyddus i gyflawni'r daith gerdded o gwmpas Cymru ers deng mlynedd.

Er iddo ymddeol yn gynnar, parhaodd cyn-Bennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Aberteifi i addysgu'n rhan amser ac, yn ddiweddarach, mewn rôl myfyriwr, a oedd yn golygu na allai neilltuo'r amser i ymgymryd â'r daith gerdded. Ac yntau bellach wedi ymddeol yn llwyr, mae gan Huw yr amser i gyflawni'r her. 

Mae ei deulu a'i ffrindiau wedi bod yn gefnogol iawn. Dywedodd Huw:  “A minnau wedi ystyried yr her hon ers deng mlynedd, a siarad amdani'n gyhoeddus ac yn rheolaidd â'm teulu a ffrindiau ers dros ddwy flynedd, rwy'n credu mai dim ond yn ddiweddar y maent wedi deall fy mod am ymgymryd â'r her o'r diwedd, ac maent yn gwbl gefnogol o'm hymdrech.

“Maent wedi cynnig cyngor gwerthfawr i mi ynglŷn â sut i baratoi ar ei chyfer – gyda rhai ohonynt yn gerddwyr profiadol iawn eu hunain.”

Mae'r cyn-athro gwyddoniaeth yn edrych ymlaen at yr her fawr sydd o'i flaen. Dywedodd: “Rwy'n ysu am gael dechrau arni ac yn edrych ymlaen at y diwrnod cyntaf pan fydd fy nheulu a'm ffrindiau yno ar draeth Poppit ger gorsaf RNLI Aberteifi.  Fodd bynnag, bu adegau wrth baratoi a ‘hyfforddi’ yn y gorffennol lle rwyf wedi meddwl “A fydd hyn yn ormod i fi?” Ond rwy'n edrych ymlaen at ymweld â lleoliadau nad wyf wedi'u gweld eto a, gobeithio, codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusennau hyn.”

Penderfynodd Huw ddewis Ambiwlans Awyr Cymru fel un o’r elusennau i godi arian iddi gan mai ‘dim ond drwy roddion y caiff ei hariannu ac mae’n darparu
gwasanaeth trosglwyddo Ambiwlans Awyr Cymru i Blant’.

Dywedodd: “Hefyd, rwyf wedi eu gweld ar waith yn agos iawn pan ddioddefodd fy nghymydog anaf difrifol iawn i'w ben a goroesi – diolch i'r driniaeth gyflym ond ddigynnwrf a gafodd a pha mor gyflym y cafodd ei drosglwyddo i'r ysbyty.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Canolbarth a De Cymru: “Diolch yn fawr iawn i Huw am godi arian ar gyfer dwy elusen bwysig. Gobeithio y bydd yn mwynhau'r her ar ôl aros deng mlynedd o aros i ddechrau arni! Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn a phob lwc.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Huw drwy ei noddi ar ei dudalen Just Giving, Huw Evans ROUTE66 CYMRUWALES.