Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi rhoi £18,162.48 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i gynilwyr ddewis yr Elusen i roi 1 y cant o'u Cyfrifon ‘Affinity Instant’.

Mae'r Gymdeithas Adeiladu wedi cefnogi'r Elusen sy'n achub bywydau ers 2014 ac mae'n falch iawn bod y Cyfrifon ‘Affinity Instant’, nad yw llawer o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn eu cynnig, wedi codi mwy na £18,000.

Mae'r Cyfrif ‘Affinity Instant’ yn caniatáu i'r unigolyn gynilo ynghyd â rhoi budd ariannol i sefydliad y maent am ei gefnogi. Bob blwyddyn, bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn rhoi rhodd i'r Partner ‘Affinity’, sy'n cyfateb i 1 y cant y flwyddyn o'r balans dyddiol a gedwir mewn cyfrif aelodau.

Cafwyd ymateb da i Ambiwlans Awyr Cymru gan aelodau Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ac mae tua 366 o gyfrifon wedi'u cysylltu ag Ambiwlans Awyr Cymru drwy'r Cyfrifon ‘Affinity Instant’.

Dywedodd Dawn Gunter, Prif Swyddog Gweithredu yn y Gymdeithas Adeiladu: “Mae'r Gymdeithas a'n haelodau yn hynod falch o'n cydberthynas ag Ambiwlans Awyr Cymru. Gwnaethom lansio'r cyfrif hwn er mwyn galluogi ein haelodau i gynilo, ynghyd â chefnogi elusen sy'n agos at eu calonnau. Mae'r swm a roddwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dyst i'r ymrwymiad y mae ein haelodau yn ei wneud drwy gynilo gyda'n Cyfrif ‘Affinity Instant’ a dewis Ambiwlans Awyr Cymru fel elusen i'w chefnogi.”

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain:“Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy am ei chefnogaeth barhaus i'n helusen sy'n achub bywydau. Mae'r Cyfrif ‘Affinity Instant’ yn ffordd wych i aelodau'r cyhoedd gefnogi elusen o'u dewis. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru. Mae mwy na £18,000 yn swm anhygoel ac mae'n ffordd hyfryd o nodi 20 mlynedd ers sefydlu ein helusen.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gyfrif ‘Affinity Instant’ Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy ewch i www.monbs.com/products/affinity-instant/