Gwnaeth cydweithwyr o CCF Limited Clynderwen osod her mis o hyd iddynt eu hunain i deithio'n rhithiol o amgylch bron pob un o 19 cangen CCF ledled Cymru, a chodi £10,000 i elusen ar yr un pryd.

Nod y rhai oedd yn cymryd rhan yn yr her codi arian oedd cwblhau'r daith 435 milltir drwy gerdded, rhedeg, neu feicio. 

Cwblhaodd cyfranogwyr yr her 1,875 milltir a chafodd swm anhygoel o £10,000 ei godi, er budd Ambiwlans Awyr Cymru a DPJ Foundation.

Cafodd Elen Griffiths, Rheolwr Cynorthwyol Masnachu, o Glan-y-fferi, y syniad o greu'r her wedi iddi ddechrau rhedeg y llynedd ac aeth ymlaen i drefnu'r digwyddiad codi arian. Roedd Elen yn awyddus i ddefnyddio ei hobi newydd fel ffordd o godi arian ac i annog ei chydweithwyr i gymryd rhan hefyd. Rhedodd gyfanswm o 100 milltir ym mis Mai. Cwblhaodd her bersonol arall fel rhan o'r digwyddiad codi arian sef rhedeg marathon metrig 26.2KM o hyd yn Llanelli, a chyrraedd y llinell derfyn mewn 2 awr a 35 munud. Cafodd Elen gefnogaeth gan James Lamb, ei chydweithiwr ar hyd y daith.

Gwnaeth Will Hughes, cydweithiwr arall Elen, hefyd gwblhau'r marathon metrig o amgylch Cwm Elan mewn 2 awr a 30 munud.

Mae Rheolwr Masnachu'r cwmni, Richard Lewis o Hwlffordd, wedi bod yn beicio ers sawl blwyddyn a chymerodd ei gyfle yn ystod y digwyddiad codi arian i neidio ar gefn ei feic unwaith eto, gan godi arian ar gyfer dwy elusen wrth wneud hynny. Ef wnaeth feicio'r pellter mwyaf gyda chyfanswm o 321 milltir.

Cymerodd Rheolwr Prosiect y cwmni, James Lamb o Landdarog, ran yn yr her gyda'i gi Beau a nhw lwyddodd i gerdded y pellter mwyaf gyda chyfanswm o 164 milltir.

Dywedodd Elen: "Gwnaethom benderfynu rhannu'r arian rhwng Ambiwlans Awyr Cymru a DPJ Foundation gan eu bod yn elusennau gwych. Er nad ydw i'n bersonol wedi gorfod defnyddio gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru rwyf wedi clywed sawl tro am sefyllfaoedd lle y gwnaethant achub bywydau, ac er mwyn iddynt barhau i wneud eu gwaith gwych mae angen cefnogaeth barhaus y cyhoedd arnynt.

"Roedd gen i darged codi arian o £10,000 yn fy mhen ers y dechrau. Nid oedd yn mynd i fod yn hawdd ond gyda help gan fy nghydweithwyr cyrhaeddom y targed. Hoffwn ddiolch i'r holl gyflenwyr a'r unigolion a wnaeth gyfrannu tuag at y raffl ac i bawb a wnaeth ein cefnogi drwy ein noddi a thrwy brynu'r tocynnau raffl."

Mae gwasanaeth brys Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.   

Dywedodd Katie Macro, Rheolwr Ymgyrchoedd Ambiwlans Awyr Cymru: "Llongyfarchiadau mawr i bawb yn CCF Clynderwen a wnaeth osod her anodd iddynt eu hunain i ymweld â phob cangen yn rhithiol mewn mis yn unig. Gwnaeth y criw lwyddo i gyrraedd 1875 milltir a chodi arian hanfodol ar gyfer ein helusen a DPJ Foundation. Mae £10,000 yn swm arbennig i'w godi gan unrhyw gwmni a dylai pawb fod yn falch iawn o'u hunain. Mae rhoddion fel hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i'r hofrenyddion barhau i hedfan a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.  Mae pob un ohonoch yn helpu i achub bywydau ledled Cymru, diolch yn fawr iawn i chi.”

Menter gydweithredol sy'n berchen i ffermwr yw CCF ac maent yn gwerthu nwyddau ledled Cymru a'r ffiniau, gan ddarparu amrywiaeth gyflawn o nwyddau ffermio a chefn gwlad. Lleolir cwmni CCF mewn ardaloedd gwledig ac maent yn deall pwysigrwydd yr elusennau hyn ac yn teimlo ei bod yn bwysig eu cefnogi.    

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.