Mae cwpl o Abertyleri yn cymryd rhan yn her rithwir Cerdded Cymru Ambiwlans Awyr Cymru eleni - yr holl ffordd o Gyprus!

Ar hyn o bryd, mae Lawrence Morris, 52 oed, a'i wraig Julie, 57 oed, yn aros yn eu hail gartref yn Pernera yn ne-ddwyrain Cyprus, lle maent yn anelu at gerdded 150 milltir ar gyfer yr Elusen sy'n achub bywydau.

Mae Cerdded Cymru yn rhoi cyfle i gerddwyr osod targed iddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar nifer y camau y gallent eu cyflawni dros gyfnod o fis o gysur eu cartrefi. Mae pob targed gyfwerth â thaith gerdded rhwng cestyll enwog Cymru a gellir cyflawni hyn gartref, yn yr ardd neu wrth wneud ymarfer corff, wrth fynd â'r ci am dro - a hyd yn oed mynd i fyny ac i lawr y grisiau! 

Nod y cwpl yw cerdded yn rhithwir o Gastell Harlech i Gastell Caerdydd, sy'n cyfateb i tua 343,00 o gamau.

Wrth feddwl am godi arian i'r Elusen, dywedodd Lawrence: Rydym wedi bod yn cerdded yn rheolaidd dros y 6 mis diwethaf yn ystod y cyfnodau clo/cyfyngiadau yng Nghyprus er mwyn ein hiechyd a'n lles; bu cyrffyw mewn grym gyda'r nos yn ogystal â chyfyngiadau ar symud a oedd yn golygu mai dim ond am 3 awr y dydd roeddem yn cael mynd allan ar ôl cael caniatâd drwy neges destun gan yr awdurdodau. Pan welsom yr her yn cael ei hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, roeddem yn meddwl y byddai'n beth da gosod targed i ni ein hunain ar gyfer mis Mehefin, sef 150 milltir, a chodi arian ar yr un pryd nôl yng Nghymru.”

Yn wreiddiol bwriad Lawrence, a arferai fod yn swyddog yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, oedd dringo'r Wyddfa gyda'i ffrindiau Stephen Flower, Stephen Mogford ac Andrew Goodenough ym mis Mehefin y llynedd ond, oherwydd y pandemig, bu'n rhaid gohirio'r digwyddiad codi arian. Mae'r dynion bellach yn gobeithio dringo'r mynydd yn 2022.

Dywedodd Lawrence, a ymddeolodd ym mis Medi 2018: “Cefais gyfle i ymweld â chanolfan Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaerdydd y llynedd gyda fy ffrindiau, am ein bod yn bwriadu cerdded i fyny'r Wyddfa fel rhan o'n digwyddiad codi arian cyntaf ar gyfer yr elusen, lle y dysgais hefyd am y gwasanaeth gwych sy'n cael ei ddarparu ar gyfer plant Cymru, nad oeddwn yn ymwybodol ohono.”

Er gwaethaf y tymereddau poeth, mae'r cwpl yn mwynhau'r her hyd yma ac maent wedi cerdded ar hyd rhai o'r arfordiroedd gwych yng nghyrchfannau gwyliau lleol Pernera, Protaras a Kapparis, yn ogystal ag ymweld â thref leol Paralimini a cherdded o'i hamgylch.

“Rydym wedi mwynhau cael cyfle i gerdded ar hyd rhywfaint o'r arfordir anhygoel yma dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn codi arian i achos mor wych.”, ychwanegodd Lawrence.

Mae'r ddau, a deithiodd i Gyprus ym mis Medi a phenderfynu aros ar yr ynys, bellach wedi'u cofrestru fel preswylwyr ond maent yn gobeithio dychwelyd i Gymru ym mis Awst ar ôl iddynt ddathlu eu pen-blwydd priodas arian.

Mae'r cwpl wrth eu bodd eu bod eisoes wedi codi £340 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ac ychwanegodd Lawrence: “A bod yn onest, ni wnaethom osod unrhyw darged i ni ein hunain ar gyfer codi arian ac, i ddechrau, roeddem yn fwy na pharod i dalu'r ffioedd mynediad fel ein rhodd i'r elusen, ond rydym wedi cael ein syfrdanu gan haelioni rhai o'n perthnasau a'n ffrindiau sydd wedi codi dros £300 hyd yma.”

Dywedodd Wendy McManus, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De-ddwyrain,: “Mae'n braf cael clywed am godwyr arian fel Julie a Lawrence sy'n cymryd rhan yn ymgyrch codi arian Cerdded Cymru mewn gwlad arall. Er gwaethaf y tywydd poeth, mae'r cwpl yn mwynhau clocio'r milltiroedd er mwyn cyrraedd eu targed o 150 milltir.

“Y peth da am Cerdded Cymru yw eu bod yn galluogi unigolion i gymryd rhan yn rhithiwr o unrhyw le yn y byd. Diolch o galon i Julie a Lawrence a phawb sydd wedi rhoi arian i'w hymgyrch codi arian. Hyd yma, maent wedi codi'r swm gwych o £340. Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweddill yr her.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Julie a Lawrence drwy fynd i'w tudalen Just Giving – Lawrence Morris Walk Wales / Cerdded Cymru

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.