Cwmni yn rhoi tri sach mawr o wyau Pasg i Ambiwlans Awyr Cymru Rhoddodd cwmni sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru dri sach mawr o wyau Pasg i griw Ambiwlans Awyr Cymru i ddangos pa mor ddiolchgar ydoedd am ei ‘waith gwych’. Roedd meddygon o'r elusen wrth eu bodd yn derbyn y rhodd hael gan Gavin Griffiths Group dros gyfnod y Pasg. Roedd cwningen y Pasg wrth law i gludo'r wyau i bencadlys Ambiwlans Awyr Cymru yn Llanelli gan ddefnyddio un o lorïau'r cwmni. Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r cwmni lleol, sydd â safleoedd yn Abertawe a Chwmgwili, roi wyau Pasg, er iddo gefnogi'r elusen sy'n achub bywydau yn y gorffennol. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y Grŵp, Gavin Griffiths: “Fel busnes, rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru a'i staff drwy roi wyau Pasg iddynt i ddweud diolch am eu holl waith gwych.” Gan sôn am y gwasanaeth hanfodol y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei ddarparu 24/7, dywedodd Gavin: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn chwarae rhan hanfodol ac yn wasanaeth hollbwysig i ni yng Nghymru. Mae'r hyn y mae'r tîm a phawb sy'n rhan o'r elusen yn ei wneud i ddarparu'r gwasanaeth yn anhygoel.” Dywedodd Jane Griffiths, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol yr Elusen yn y De: “Diolch i Gavin Griffiths Group am roi'r tri sach enfawr o wyau Pasg i staff Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r meddygon yn darparu gwasanaeth sy'n achub bywydau 24/7 i bobl Cymru ac mae'n hyfryd pan fydd pobl yn diolch iddynt am eu hymdrechion. Llwyddodd cwningen y Pasg a'r lori llawn wyau yn sicr i roi gwên ar wynebau staff Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd yn beth hyfryd i'w wneud.” I gael rhagor o wybodaeth am Gavin Griffiths Group, ewch i www.griffiths-group.co.uk Manage Cookie Preferences