16/07/2020

Mae cwmni hael a leolir ym Mae Caerdydd wedi rhoi cyfarpar diogelu personol a hylif diheintio dwylo yr oedd eu hangen yn fawr i Ambiwlans Awyr Cymru.

Rhoddodd Heat and Combustion Supplies gyflenwad o hylif diheintio dwylo yn cynnwys lefel alcohol o 70 y cant, amddiffynwyr wyneb, weips gwrthfacterol a masgiau untro tair haen i'r elusen hofrenyddion. Mae'r cwmni wedi’i leoli drws nesaf i Ambiwlans Awyr Cymru yn Hofrenfa Caerdydd.

Ond mae rheswm personol dros roi’r rhodd i’r Elusen hefyd. Mae Glyn Moore, sy'n beiriannydd gwerthu, hefyd yn feiciwr modur brwd, a bu angen gwasanaethau Ambiwlans Awyr Cymru arno yn y gorffennol.

Roedd Glyn wrth ei fodd bod y cwmni'n gallu darparu’r cyfarpar i achos mor haeddiannol. Dywedodd: “Mae Heat and Combustion Supplies yn ddigon ffodus bod ganddo gyflenwad da o gyfarpar diogelu personol sy'n gysylltiedig â COVID-19 nad yw’n eiddo i’r GIG.  Fel busnes, gofynnodd ein rheolwr cangen, David Hind, i'r tîm awgrymu unrhyw elusennau gwerthfawr y byddai modd i ni eu helpu yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.

“I mi, gan fy mod wedi gorfod dibynnu ar yr ambiwlans awyr, a gan fod gwasanaeth yr Elusen yng Nghaerdydd wedi'i leoli mor agos at leoliad ein busnes, roedd yn ddewis amlwg.

“Rydym yn gobeithio y gwneir defnydd da o bopeth, ac y bydd y cyflenwad yn ddefnyddiol i'r holl dîm wrth ddarparu'r gwasanaeth gwerthfawr sydd ei angen.”

Mae Heat and Combustion Supplies yn falch o fod yn gwmni nad yw'n rhy fawr i fecso. Mae'r rhodd yn cynnwys mwy na 500 o fasgiau, 100 o boteli o hylif diheintio dwylo, 50 o amddiffynwyr pen a 50 o becynnau o weips gwrthfacterol i’r achos haeddiannol iawn hwn.

Gan sôn am bwysigrwydd yr elusen hofrenyddion, ychwanegodd Glyn, yn ddiolchgar iawn: “Mae'n hollbwysig bod y gwasanaeth a ddarperir gan yr ambiwlans awyr yn cael ei gynnal, neu hyd yn oed ei ehangu. Efallai mai swydd yn unig ydyw i'r meddygon a staff yr Elusen, ond i'r bobl sy'n derbyn y gwasanaeth, gall wneud gwahaniaeth mawr, a all effeithio ar deulu cyfan a llu o ffrindiau, yn ogystal â'r unigolyn.

Dywedodd Andrew Lawton, Pennaeth Iechyd a Diogelwch yr Elusen: “Diolch o galon i staff Heat and Combustion Supplies, sydd wedi rhoi'r eitemau hanfodol hyn i'n gwasanaeth.

“Mae diogelwch ein staff, meddygon, cleifion a chefnogwyr yn hollbwysig, a bydd y cyfarpar hwn yn rhoi tawelwch meddwl, yn ogystal â chadw pawb yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae'r rhodd yn hael iawn, ac rydym yn ddiolchgar iawn.”

I gael rhagor o wybodaeth am Heat and Combustion Supplies, ewch i'w wefan yn yma