02/07/2020

Mae cwmni cyllid manwerthu yng Nghaerdydd wedi rhoi £3,553 i Ambiwlans Awyr Cymru am fod yr elusen wedi cael effaith bersonol ar fywydau nifer o'i gydweithwyr.

Bob blwyddyn, bydd V12 Retail Finance, sy'n cyflogi 220 o staff, yn cydgysylltu gweithgareddau er mwyn helpu i godi arian ar gyfer achosion da ac elusennau lleol.

Yn y gorffennol, mae wedi helpu hyd at bedair elusen mewn unrhyw flwyddyn benodol ond, yn 2020, penderfynodd ganolbwyntio ar un brif elusen – Ambiwlans Awyr Cymru.

Gan fyfyrio ar bwysigrwydd y rhodd, dywedodd Cyfarwyddwr Cyllid y cwmni, Eliot Grant: “Fel busnes, rydym bob amser wedi annog y staff i gynnal gweithgareddau codi arian er mwyn helpu achosion da ac elusennau lleol, ac ychydig flynyddoedd yn ôl gwnaethom sefydlu Pwyllgor Elusennau er mwyn cydgysylltu gweithgareddau o'r fath. Ar gyfer 2020, gwnaethom benderfynu canolbwyntio ar un brif elusen. Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael effaith bersonol ar fywydau nifer o gydweithwyr V12 a chafodd ei dewis fel ein helusen enwebedig gan ein staff drwy arolwg a phleidlais ar-lein.”

Dechreuodd y staff ar eu gwaith codi arian ar ddechrau'r flwyddyn gyda diwrnodau gwisgo'n hamddenol a gwerthu cacennau, a gododd £1,628 hyd at ganol mis Mawrth. Oherwydd cyfyngiadau presennol COVID-19, nid ydynt wedi gallu trefnu gweithgareddau codi arian na chasglu rhoddion staff.

Gan siarad am anawsterau codi arian yn ystod y pandemig, ychwanegodd Eliot: “Gwnaethom benderfyniad busnes i barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru drwy rodd gan y cwmni yn hytrach na gan ein staff. Gwnaethom roi £3,553 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ddechrau mis Mai, gyda £1,628 yn rhodd gan y staff a £1,925 yn rhodd gan y cwmni. Hefyd, caf ar ddeall bod nifer o unigolion wedi ymgymryd ag amrywiaeth o heriau a gododd arian drwy wefannau codi arian, a gafodd ei dalu'n uniongyrchol i'r elusen.

“Mae'r busnes a'i staff yn teimlo ei bod yn bwysig iawn cefnogi elusennau ac achosion da lleol a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian yr Elusen ar gyfer De Cymru: “Mae'n deimlad arbennig iawn gwybod bod Ambiwlans Awyr Cymru wedi gallu gwneud gwahaniaeth personol i nifer o bobl yng nghwmni V12 Retail Finance. Drwy hwyl codi arian, mae'n bwysig cofio y caiff yr arian ei godi at ddiben achub bywydau. Dyna pam rwy'n diolch o waelod calon i bawb yn y cwmni am gefnogi ein helusen. Bydd eu hymdrechion yn cael effaith sylweddol ar fywydau ledled Cymru.”

Mae V12 Retail Finance yn rhoi benthyciadau anwarantedig i gwsmeriaid drwy ei bartneriaid manwerthu er mwyn hwyluso'r broses o brynu amrywiaeth eang o nwyddau defnyddwyr, megis dodrefn, gemwaith, beiciau a chyfarpar chwaraeon – mewn siopau, drwy archebion post ac ar-lein.