Daeth cneifwyr defaid at ei gilydd i godi swm enfawr o £46,272 i Ambiwlans Awyr Cymru drwy gynnal diwrnod hwyl o gneifio i'r teulu.

Cynhaliodd Cneifio Cylch ddigwyddiad cneifio defaid yn y Bull Inn yn Llannerchymedd, Ynys Môn, er cof am aelod o'r grŵp a ffermwr lleol, John Owen.

Dechreuodd y digwyddiad drwy gynnal cystadleuaeth cneifio defaid, ac yna arwerthiant elusennol a gododd fwy na £33,000 ar ei ben ei hun. Yn ogystal, roedd yna stondinau bwyd a diodydd, castell neidio, mochyn rhost ac adloniant gan grŵp lleol, The Atoms.

Mae'r grŵp wedi bod yn cynnal digwyddiadau cneifio defaid ers dros ddau ddegawd ac yn y cyfnod hwnnw maent wedi codi arian i lawer o elusennau lleol gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru.

Dechreuodd yn wreiddiol yn 1992 fel parti gadael i gneifwyr o Seland Newydd wedi iddynt dreulio'r haf yn cneifio ar Ynys Môn. Ers y mileniwm, mae'r digwyddiad wedi dod yn ddigwyddiad codi arian blynyddol gyda phobl yn teithio o bob man i'w fynychu.

Dywedodd Alun Jones, Cadeirydd Cneifio Cylch ac un o aelodau gwreiddiol y grŵp, fod y digwyddiad wedi llwyddo y tu hwnt i ddisgwyliadau.

Dywedodd: “Gwyddom y byddai'n ddigwyddiad da am ein bod wedi cael seibiant oherwydd Covid-19 ac yna gwnaethom golli un o aelodau gwreiddiol y grŵp, John Owen, 18 mis yn ôl.

“Roedd John yn ffermwr poblogaidd iawn yn yr ardal ac roedd yn hoffus iawn a gwnaethom benderfynu cynnal y diwrnod er cof amdano. Roedd pawb yn awyddus i wneud yn siwr mai hwn fyddai'r gorau hyd yma. Roedd hefyd yn gefnogwr mawr Ambiwlans Awyr Cymru, felly gwnaethom benderfynu rhoi'r holl arian i'r Elusen.

“Pan wnaethom gyfrif yr arian, cawsom ein syfrdanu o ddarganfod ein bod wedi codi £46,275. Mae codi'r swm yna mewn diwrnod yn anhygoel a hoffwn ddiolch i'r holl fusnesau a'r unigolion am yr holl roddion hael a'u cefnogaeth. Roedd digwyddiad da yn arfer bod o amgylch £20,000 ond mae hwn wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau pawb.”

Mynychodd o amgylch 700 o bobl y diwrnod i'r teulu ac eleni roedd y gystadleuaeth cneifio defaid yn wahanol i'r arfer.

Dywedodd Mr Jones: “Mae'n anodd iawn dod o hyd i gneifwyr defaid erbyn hyn, felly gwnaethom ddefnyddio beic gwthio i helpu i droi'r peiriant cneifio. Cawsom aelodau o'r gynulleidfa i gymryd rhan drwy eu gwahodd i feicio a helpu i gneifio'r defaid yn ogystal â chael un dyn yn ei wneud yn y ffordd draddodiadol â llaw. Roedd yn llawn hwyl, ac roedd yn ymddangos fel petai pawb yn cael amser da. Er gwaethaf y gostyngiad mewn cneifwyr defaid, roedd y cneifio yn dal yn agwedd bwysig iawn o'r digwyddiad.

“Prif ddigwyddiad codi arian y dydd yw'r arwerthiant elusennol lle bydd busnesau ac unigolion lleol yn hael iawn wrth roi eitemau. Rydym yn tueddu i ofyn i bobl roi eitemau y gall pobl eu defnyddio fel talebau a chynhyrchion amaethyddol, ond mae gennym femorabilia hefyd.

“Mae llawer iawn o dynnu coes bob amser ac eleni roedd dau ffermwr yn cynnig am wrtaith ieir. Gwerthwyd un llwyth trelar fferm, a oedd yn werth £400, am £1,500 yn y pen draw! Roedd gennym grys wedi'i lofnodi gan Chrisitan Ronaldo a werthwyd am £1,000, ac eto, roedd llawer o dynnu coes am fod y gwrtaith ieir wedi gwerthu am fwy na chrys Ronaldo.”

Mae'r grŵp wedi codi tua £97,000 i Ambiwlans Awyr Cymru dros y blynyddoedd.

Dywedodd Mr Jones: “Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth hanfodol iawn i ni ar Ynys Môn. Rydym mewn cymuned amaethyddol a gall damweiniau drwg ddigwydd felly po gyflymaf y caiff pobl eu gweld, gorau oll. Mae'n wasanaeth hollbwysig i gymunedau gwledig. Rydym yn falch iawn o fod wedi codi dros £46,000 i'r Elusen yn enwedig am yr oedd John yn gefnogwr brwd ac roedd y diwrnod er cof amdano.”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n cynnig gofal critigol ledled Cymru sy'n cael ei ddarparu drwy bartneriaeth rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru).  

O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Alwyn Jones, un o Swyddogion Codi Arian Cymunedol Elusen Ambiwlans Awyr Cymru: “Roedd y digwyddiad eleni yn arbennig o hyfryd, am ei fod er cof am John Owen, ac rydym yn ddiolchgar o fod wedi cael ein dewis fel yr elusen a gefnogwyd er cof amdano. Ni allaf gredu y gall sefydliad cymunedol mor fach godi swm mor anhygoel cyn pen dim.

“Mae Cneifio Cylch wedi bod yn codi arian i'r Elusen am ychydig flynyddoedd ac mae'r swm maent wedi codi ar ein cyfer yn anhygoel. Diolch i'r holl unigolion a'r busnesau a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn un llwyddiannus iawn. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich bod yn cefnogi ein helusen achub bywydau yn fawr.

“Llongyfarchiadau mawr i'r holl aelodau ymroddgar a'r gymuned. Diolch yn fawr i chi i gyd.”