Cinio sirol yn codi miloedd ar gyfer elusennau Cyhoeddwyd: 01 Awst 2024 Mae cinio sirol NFU Cymru Brycheiniog a Maesyfed wedi codi dros £8,000 ar gyfer dwy elusen haeddiannol iawn. Llwyddodd y cinio, a gynhaliwyd gan Rob Powell, Cadeirydd NFU Cymru Sir Frycheiniog a Maesyfed, a'i deulu ar fferm Blaenbwch ger Llanfair-ym-Muallt, i ddenu dros 200 o bobl o bob rhan o'r sir. Y ddwy elusen a gafodd fudd o'r arian a godwyd yw The Brain Tumour Charity ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, gyda'r ddwy yn cael £4,100 yr un. Dywedodd Rob Powell: “Rwy'n falch iawn bod y digwyddiad wedi bod yn gymaint o lwyddiant, nid yn unig oherwydd y swm anhygoel a godwyd, ond am ei fod wedi dod â'r gymuned ynghyd am y noson. Roedd pawb wedi cyfrannu mor hael, yn enwedig y rheini a gyfrannodd at yr ocsiwn elusennol. Rydym yn ddiolchgar iawn fel teulu i'r rhai a wnaeth ein helpu a'n cefnogi i gynnal digwyddiad gwych arall ar fferm Blaenbwch, lle rydym wedi codi dros £50,000 ar gyfer amrywiaeth o elusennau dros y blynyddoedd." Cafodd y siec ei chyflwyno i Ambiwlans Awyr Cymru wrth stondin NFU Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, digwyddiad pwysig yn nyddiadur cymunedau ffermio a chefn gwlad ledled Cymru. Dywedodd Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Gadeirydd NFU Cymru Brycheiniog a Maesyfed, a'r holl aelodau yn y rhanbarth, am y rhodd hael hon. Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn eiddo i bobl Cymru. Y cyfan rydym yn ei wneud yw pontio'r bobl sydd am helpu eraill â'r rheini sydd mewn sefyllfa sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff. Bydd y rhodd hon yn cael effaith wirioneddol ar ein cleifion a'u hanwyliaid yn y dyfodol. "Gwyddom pa mor bwysig yw Ambiwlans Awyr Cymru i gymunedau amaethyddol a chefn gwlad. Caiff hyn ei adlewyrchu yn yr haelioni a'r gefnogaeth frwd i'r elusen, sy'n wirioneddol hyfryd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu'r gwasanaeth achub bywyd gorau posibl ac yn gwella'r gwasanaeth hwnnw'n barhaus pan fydd cyfleoedd yn codi." Manage Cookie Preferences