Man dyn o Wrecsam wedi codi £1,515 drwy eillio ei farf a thorri ei wallt hir i Ambiwlans Awyr Cymru.

Dechreuodd Christopher Parry, sy'n 47 oed, o Gefn-Y-Bedd dyfu ei wallt a'i farf ers cyn y cyfnod clo gwreiddiol ym mis Mawrth 2020.

Wrth feddwl am y rheswm dros benderfynu tyfu ei wallt a'i farf ac yna eu torri i godi arian, dywedodd y gweithiwr Airbus: “Dechreuais dyfu fy ngwallt ychydig cyn y cyfnod clo a ddechreuodd ym mis Mawrth 2020. Dechreuodd fel ychydig o hwyl gan fod y siopau torri gwallt ar gau, a daliais ati i'w dyfu tan y diwrnod eillio.

“Mae'r Ambiwlans Awyr yn achos da. Byddaf yn ei weld yn hedfan o gwmpas yn aml pan fyddaf yn ardal Porthmadog. Mae'r gwaith y mae'n ei wneud yn hanfodol, ac mae'n achos teilwng.”

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.         

Roedd rhai o ffrindiau Chris yn awyddus i gael gafael yn y sisyrnau. Gwnaethant eillio ei farf a thorri ei wallt i gael gwared ar y trwch o wallt.

Mae Chris, sy'n berchen ar garafán ar arfordir gogledd Cymru, bellach yn addasu i fywyd heb farf, ac ychwanegodd: “Mae'n teimlo'n rhyfedd, gan fy mod i wedi ymgyfarwyddo â'r barf a'r gwallt hir, er ei bod hi'n teimlo'n well i beidio â chael gwallt hir a barf yn y tywydd poeth. Rwy'n falch eu bod wedi mynd.”

Dywedodd Debra Sima, swyddog codi arian cymunedol i Ambiwlans Awyr Cymru: “Diolch yn fawr i Chris a eilliodd ei farf a thorri ei wallt i godi arian i'r elusen. Rhaid ei fod wedi bod yn benderfyniad mawr i Chris eillio ei wallt hir a'i farf ar ôl ei dyfu cyhyd.

“Mae wedi codi swm gwych o £1,515 ar gyfer ein helusen sy'n achub bywydau, sy'n dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu. Ar ran pawb yn Ambiwlans Awyr Cymru, a phawb ledled Cymru a fydd yn cael budd o'r ymgyrch codi arian hon, hoffwn ddiolch i Chris ac i bawb a gefnogodd ei ddigwyddiad codi arian.”

Mae amser o hyd i gyfrannu at ddigwyddiad codi arian Chris drwy ei dudalen Just Giving – Christopher's Close Shave.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.