29/01/2020

Ers dechrau codi arian yn 2012, mae cwsmeriaid a staff hael y siop gadwyn o'r Amwythig sy'n gwerthu nwyddau i'r ardd, y cartref a'r awyr agored ledled Cymru wedi codi swm anhygoel o £84,528 i gefnogi gwaith yr ambiwlans awyr sy'n achub bywydau.

Mae Charlies yn fanwerthwr teuluol annibynnol ac mae ganddynt siopau yn Aberystwyth, Caerfyrddin, y Drenewydd, Queensferry, y Trallwng a'r Amwythig. Yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig, gwnaethant gyflwyno nifer o fentrau codi arian i gefnogi gwasanaethau'r ambiwlans awyr yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr.

Y swm diweddaraf a godwyd yw £27,282, gyda chymaint â £19,452 o'r cyfanswm hwnnw yn mynd at Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Fel rhan o'u gwaith codi arian, rhoddwyd £2 o werthiant pob coeden Nadolig go iawn, buont yn casglu arian yn y siopau, a chynhaliwyd raffl codi arian i'r staff.

Cafodd yr Yetis o Goed-y-Dinas a oedd wedi dod i ganu yn y siop yn y Trallwng groeso mawr gan y cwsmeriaid, a chafodd cwsmeriaid y siop yn yr Amwythig berfformiad gan ddynion eira. Yn ogystal â hynny, cynhaliwyd noson arddangos blodau, cyrsiau creu torchau a digwyddiad gwerthu cacennau, gyda'r holl elw yn mynd tuag at y cyfanswm terfynol.

Dywedodd Rheolwr-Gyfarwyddwr Siopau Charlies, Rebecca Lloyd, : "Wedi i ni godi dros £15,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn 2018, roedd gennym darged uchel i'w guro.   Diolch i'n cwsmeriaid hael a'n staff ymrwymedig, rydym yn falch iawn o ddweud bod y cyfanswm a godwyd yn 2019 wedi cyrraedd dros £19,000. Rydym yn falch o allu rhoi swm mor uchel o arian i achos teilwng iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at guro hynny eto yn 2020."

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru, Andrew Hall:  "Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb yn Siopau Charlies am eu cefnogaeth barhaus i Ambiwlans Awyr Cymru, ac am haelioni'r cyhoedd a roddodd swm mor anhygoel. Mae 2020 yn flwyddyn bwysig i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a hoffem gyrraedd ein nod o ddod yn wasanaeth 24/7. Gyda chefnogaeth barhaus sefydliadau fel Charlies, gallwn fod ar gael i bobl Cymru ddydd a nos. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Siopau Charlies drwy gydol y flwyddyn ar fentrau codi arian eraill." 

Lansiwyd AAC ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001.  Ers dechrau yn syml fel gwasanaeth un hofrennydd, erbyn hyn, dyma'r ymgyrch ambiwlans awyr fwyaf yn y DU gyda phedwar hofrennydd mewn canolfannau yn y Trallwng, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig i Gymru. Mae'r gwasanaeth yn un 12 awr ar hyn o bryd, yn gweithredu rhwng 8am ac 8pm, ond hoffem ddod yn wasanaeth 24/7 yn 2020. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn bob blwyddyn.

Mae'r gwasanaeth bellach yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn Ewrop. Arweiniodd y bartneriaeth Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus unigryw hon, rhwng AAC a GIG Cymru, at greu'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) dan arweiniad meddygon, neu 'Meddygon Hedfan Cymru' fel y'i gelwir gan amlaf. Mae AAC bellach yn darparu gofal critigol cyn mynd i'r ysbyty a gofal meddygol brys arloesol ledled Cymru – gan ddod â'r ystafell frys at y claf.