Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd tan Gyngerdd Clwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf yng nghwmni Richard ac Adam a Chôr Meibion Hendy-gwyn. Cynhelir y cyngerdd am 7pm ddydd Sadwrn 9 Hydref yn Theatr Follies, Folly Farm.

Roedd y tocynnau'n gwerthu'n dda i ddechrau, ond daeth hynny i ben yn anffodus gyda'r newyddion am yr argyfwng petrol. Ac er bod y Clwb yn falch o gyhoeddi bod y gwerthiant hyd yn hyn yn ddigonol i dalu costau'r cyngerdd, hoffai werthu mwy o docynnau er mwyn gallu rhoi swm da i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Er mwyn gwneud hyn, mae angen cael mwy o bobl i fynd i'r cyngerdd, a byddai aelodau'r Clwb wrth eu bodd pe bai modd i chi a'ch ffrindiau ymuno â nhw.   

Dywedodd Elaine Bradbury, Llywydd y Clwb, “Mae'r sefyllfa petrol wrthi'n datrys ei hun erbyn hyn diolch byth, ac mae'n bleser gennym gadarnhau bod y digwyddiad yn cydymffurfio â holl Ganllawiau diweddaraf COVID-19 Llywodraeth Cymru ac yn bodloni'r holl feini prawf. Nid oes angen cael Pàs COVID i fod yn bresennol.

“Bydd sedd i bawb yn y digwyddiad, gan gyfyngu ar nifer y bobl sy'n dod er mwyn gwneud yn siŵr y bydd digon o le i bawb allu mwynhau'r cyngerdd yn ddiogel a chyfforddus. Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein hasesiad risg wedi cael ei gydnabod a'i dderbyn, a'i fod yn cynnwys mesurau ychwanegol gan gynnwys trefniadau ar gyfer echdynnu aer a chyflwyno aer ffres, system unffordd ac ati.”

Mae tocynnau ar gael yn Dales Music Store Dinbych-y-pisgod, Rock n Rolla Emporium Arberth, ac Oriel a Siop Grefftau The Creative Cafe Hwlffwrdd, yn ogystal ag ar-lein yn www.nwrotary.co.uk.

(Prynwch eich tocynnau ar-lein i'w casglu wrth y drws). Neu, cysylltwch ag unrhyw aelod o Glwb Rotari Arberth a Hendy-gwyn ar Daf a fydd yn fwy na pharod i'ch helpu.

Dywedodd Elaine, “Mae wedi bod yn amser hir ers ein cyngerdd diwethaf, a gallwn ddeall yn llwyr y gallai rhai pobl deimlo'n nerfus, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i greu amgylchedd diogel er mwyn i chi fwynhau yr hyn fydd yn ddigwyddiad bythgofiadwy.

“Mae Côr Meibion Hendy-gwyn wedi bod yn ymarfer yn dda, ddwywaith yr wythnos, ac yn swnio'n wych. Mae Richard ac Adam wrth eu bodd yn ailgydio yn eu taith, ac mae'n bleser mawr gennym hefyd roi cyfle i gerddorion ifanc o Sir Benfro berfformio mewn digwyddiad fel hwn. Mae Carys Underwood o Arberth, sy'n chwarae'r marimba, y gantores Phebe Salmon o Dinas, a'r soprano Ffion Thomas o ogledd Sir Benfro wedi paratoi nifer o ddarnau gwych i chi. Byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.”

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.