Cefnogwr a gwirfoddolwr ymroddedig i'r Elusen Cymru gyfan yn taro eto â digwyddiad 48 awr Mae Sallly Smith wedi hen arfer â chodi arian, ar ôl codi dros £20,000 ar hyd y blynyddoedd i Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ôl yn 2017, roedd angen cymorth y gwasanaeth ar ffrind Sally, ond yn anffodus bu farw. Er cof am ei ffrind, gosododd Sally her iddi hi ei hun drwy redeg Hanner Marathon Caer. Ers hynny, mae Sally wedi parhau i godi arian i'r Elusen, gan ymgymryd â'r her epig o gwblhau 52 'parkrun' mewn 52 o wythnosau. Mae'r gweithiwr gyda Chyngor Sir Ddinbych bellach yn trefnu ei her nesaf, sef digwyddiad rhedeg 48 awr. Mae Sally yn annog cerddwyr a rhedwyr i ymgymryd â dolen 5k yn un o'i slotiau awr penodol. Bydd cyfanswm o 48 o ddolenni, a'r nod yw cael o leiaf un unigolyn yn ymgymryd â dolen 5k ar gyfer pob slot amser. Cynhelir y digwyddiad yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc mis Awst. Dywedodd Sally: “Deffrais un bore Sul a meddwl y dylsen ni wneud taith 'parkrun' 48 awr. “Rydym yn gymunedol iawn, ac mae pawb wedi bod yn anhygoel yn fy nghefnogi, waeth beth rwy'n ei wneud i'r Elusen. Hyd yn oed yn ystod yr amseroedd hyn, pan mae arian yn brin, maent mor hael. “Rwyf bron â llenwi pob slot rhedeg. Mae pobl yn dweud ‘Fe wna i 1 tan 2 y bore’, ‘Fe wna i 4am i 5am’. Llynedd, cawsom grŵp o fechgyn a wnaeth gynnal gêm bêl-droed 24 awr, es i fyny a'u cefnogi nhw ac maen nhw'n fy nghefnogi i gyda hyn nawr. “Rydym am gynnal ychydig o gemau llawn hwyl fel, ‘Sawl 5k?’ - punt y cynnig. Felly, bydd hynny'n codi arian hefyd.” Mae Sally yn galw ar ei chymuned i barhau â'u cefnogaeth. Ychwanegodd: “Wrth i'r gymuned gymryd rhan, mae pawb yn cefnogi ei gilydd, a gall pobl ddod a cherdded y cwrs am yr awr hyd yn oed. Dewch i gael sgwrs, does dim ots am eich lefel ffitrwydd; gallwch fod yn rhan o hyn.” “Mae pobl eisoes yn cynnig helpu, gan ddweud ‘Fe wna i redeg ychydig,’ ‘Fe wna i wirfoddoli fel marsial a chefnogi'r rhedwyr i ddal ati.’ “Rwyf wedi creu amserlen, felly bydd rhywun yn rhedeg o'r cychwyn i'r diwedd.” Bydd y daith redeg yn dechrau am 5pm bnawn ddydd Gwener 23 Awst ac yn dod i ben 5pm bnawn Sul 25 Awst. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Dywedodd Sally, sydd hefyd yn gwirfoddoli ar gyfer yr elusen sy'n achub bywydau: “Rwyf mor angerddol am elusen Ambiwlans Awyr Cymru a'r hyn y mae'n ei gwneud. Rwy'n meddwl bod yr hyn y mae'n ei gwneud, yr hyn y mae'n ei chynrychioli a'r ffordd y caiff ei rhedeg yn hyfryd iawn. “Rwy'n gwirfoddoli hefyd ac unwaith rydych yn cymryd rhan ac yn gwneud ychydig o waith ymchwil; rydych yn sylweddoli cymaint y mae'r tîm yn ei wneud. Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei fflyd o hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Dywedodd Debra Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru: “Diolch i bawb sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer yr her redeg 48 awr hon! “Mae hon yn ffordd wych o gynnwys y gymuned gyfan. “Rydym yn ddiolchgar dros ben am ymroddiad Sally fel gwirfoddolwr ar gyfer ein helusen a'i hawydd anhygoel i feddwl am heriau newydd i godi ymwybyddiaeth ac, yn bwysicaf oll, codi arian. “Rydym wrth ein bodd â'r mathau hyn o ddigwyddiadau – lle gall pawb gymryd rhan, cwrdd a chymdeithasu a chodi arian i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ar yr un pryd.” Dywedodd Sally bod y gwasanaeth yn “cyffwrdd â chymaint o fywydau” a phob tro y mae'n cynnal digwyddiad “mae gan rywun bob amser stori amdanynt eu hunain, am ffrind, cymydog neu anwylyd.” I roi arian ar gyfer her Sally, ewch i Sally Smith is fundraising for Wales Air Ambulance Charitable Trust (justgiving.com) Manage Cookie Preferences