Mae bwyty poblogaidd ym Mhowys wedi penderfynu cefnogi Elusen yng Nghymru ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus o fasnachu. 

 

Yn ddiweddar, rhoddodd 'The Banc' yn Nhrefyclo £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn y cyfleuster sydd newydd agor yn y dref fach yng Nghymru.

 

Lle'r oedd yr HSBC lleol gynt, cymerodd Holly Milward a Craig Small berchnogaeth o'r safle ar ôl i'r banc stryd fawr gau ei ddrysau am y tro olaf ym mis Mai 2017.

 

Ar ôl wyth mis o adfer a gwaith caled, ail-agorwyd y 'Banc' ar ei newydd wedd i'r cyhoedd fel bar a bwyty ym mis Gorffennaf 2018.

 

Wrth siarad am eu rhodd, dywedodd Holly: "Roedd ein swyddi blaenorol yn cynnwys elfennau o godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, felly roeddem yn benderfynol o barhau i'w chefnogi mewn unrhyw ffordd bosibl gyda'r fenter busnes newydd hon.

 

"Mae'r deuddeg mis cyntaf wedi bod yn wych, ac mae'r bwyty’n parhau i fynd o nerth i nerth. Rydym yn falch o allu cefnogi achos mor haeddiannol, ac rydym yn llwyr werthfawrogi pa mor bwysig yw'r gwasanaeth i gymunedau gweledig Canolbarth Cymru."

 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o fusnes, penderfynodd Holly a Craig fod mor greadigol â phosibl gyda'u hymdrechion i godi arian drwy gynnal digwyddiadau amrywiol yn y bwyty a chynnal cystadleuaeth 'Pêl Bonws' wythnosol hefyd.

 

Ychwanegodd Holly: "Gan ddilyn canlyniadau 'Pêl Fonws' wythnosol y Loteri Genedlaethol i raddau, byddai cwsmeriaid yn talu i gael rhif. Os oedd eu rhif yn ymddangos yna byddent yn ennill hanner yr elw, a byddai'r hanner arall yn cael ei roi i Ambiwlans Awyr Cymru."

 

"Roedd yn sicr yn boblogaidd, sy'n dyst i'r ffaith bod £2,000 wedi cael ei godi mewn deuddeg mis yn unig. "

 

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Canolbarth Cymru, Andrew Hall: "Rydym yn hynod o ddiolchgar i Holly, Craig a phawb yn 'The Banc' am eu rhodd hael iawn. Bob blwyddyn, rydym yn dibynnu'n llwyr ar gymorth y cyhoedd yng Nghymru i helpu i godi £6.5 miliwn. Dim ond drwy gefnogaeth gan fusnesau fel 'The Banc' y gallwn barhau i hedfan er mwyn achub bywydau ledled Cymru.

 

"Mae'n rhaid diolch yn arbennig hefyd i'r holl gwsmeriaid sy'n ymweld â'r bwyty yn rheolaidd ac yn cefnogi'r gweithgareddau codi arian er budd ein helusen.

 

"Hoffem ddymuno'n dda i Holly a Craig a hir oes i'w busnes."