Mae grŵp cneifio defaid o Ynys Môn wedi codi mwy na £9,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn diwrnod cneifio blynyddol.

Mae'r digwyddiad, a gynhelir yn lleol yn Y Ring yn Rhos-goch, wedi bod yn cefnogi elusennau lleol am fwy na dau ddegawd.

Dyma aelod o'r pwyllgor, Nia Williams, yn adrodd hanes un o ddigwyddiadau codi arian mwyaf yr ynys dros y blynyddoedd diwethaf: "Dechreuodd y digwyddiad Cneifio Ring yn 1992 yn wreiddiol fel parti gadael i gneifwyr a oedd wedi teithio o Seland Newydd i dreulio'r haf yn cneifio ar Ynys Môn.

"Erbyn y 2000au cynnar, datblygodd yn ddigwyddiad codi arian blynyddol gyda phobl yn dod yn llu bob blwyddyn. Roedd y rhoddion yn gymharol fach i ddechrau, ond gwnaethant gynyddu'n raddol o flwyddyn i flwyddyn. Roedd 2012 yn flwyddyn arbennig pan godwyd swm anhygoel o £8,000. Ers hynny, mae'r swm a godir wedi cynyddu bob blwyddyn."

Cynhelir y digwyddiad, sydd wedi dod yn un o'r prif ddigwyddiadau yng nghalendr blynyddol yr ynys, mewn pabell fawr ym maes parcio'r dafarn erbyn hyn, ac mae wedi codi swm anferthol o £47,692.52 ar gyfer yr elusen hofrenyddion hyd heddiw.

Ychwanegodd Nia: "Mae'r digwyddiad yn dechrau gyda chystadleuaeth gneifio cyn cynnal ocsiwn lle caiff mwy na 120 o eitemau eu gwerthu. Yn dilyn hynny, ceir noson o adloniant sy'n cynnwys mochyn rhost blasus, stondinau a raffl. Caiff holl eitemau'r ocsiwn a'r cig ar gyfer y rhost eu rhoi drwy garedigrwydd busnesau lleol ac unigolion sy'n byw yn yr ardal.

"Rydym yn ffodus iawn ein bod yn cael cymaint o gefnogaeth gan y gymuned leol ac mae pawb bob amser yn hynod hael wrth roi. Teimlwn yn gryf fod Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth gwerthfawr iawn i ni fel triogolion yr ynys. Rydym wedi gweld ymateb cyflym yr hofrennydd brys sawl gwaith wrth iddo lanio gerllaw er mwyn helpu pobl sydd mewn perygl. Mae'n wasanaeth hollbwysig i gymunedau gwledig fel Rhos-goch."

Denodd y digwyddiad, fwy na 500 o bobl eleni, a chodwyd swm gwych o £9,688.34 ar gyfer yr elusen hofrenyddion yn unig.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Gogledd Cymru: “Diolch o galon i bawb sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad codi arian blynyddol hwn am eu cefnogaeth barhaus. Mae gweld yr ardal wledig fach hon yn codi swm mor anhygoel wir yn codi calon. Mae yno ymdeimlad cryf o gymuned a does dim diwedd ar eu haelioni.

"Yn 2018, gwnaethom ymateb i 99 o alwadau ar yr ynys hon yn unig, gan gyfrif am gyfartaledd o 8 galwad y mis.  Yr unig ffordd y gallwn barhau i helpu Cymru yw drwy gefnogaeth grwpiau megis grŵp Cneifio Defaid Rhos-goch."

Gellir cael gwybodaeth bellach am y digwyddiad ar eu tudalen Facebook,  ‘Charity Sheep Shearing Rhosgoch’.