26/06/2020

Mae hyfforddwr ffitrwydd wedi dweud sut y cafodd ei hysbrydoli i gymryd rhan mewn Taith Gerdded Rithwir i gopa'r Wyddfa ar ôl i Ambiwlans Awyr Cymru achub bywyd ei merch.

Roedd Sarah Owen, sy'n addysgu ffitrwydd H.A.B.I.T yn Pritchard's Martial Arts ym Mangor, yn un o 37 o aelodau, a oedd yn cynnwys ei merch Cara, a gymerodd ran yn y digwyddiad codi arian i'r elusen hofrennydd sy'n achub bywydau.

Dioddefodd Cara Owen, sy'n 22 oed ac yn gic-focsiwr o Gaernarfon, hematoma darostyngol acíwt (clot gwaed sy'n bygwth bywydau ar yr ymennydd) ar ôl ennill gornest gic-focsio ym mis Medi 2019. Goroesodd ar ôl cael gofal brys gan feddygon yr Elusen, Tracy Phipps ac Ian Thomas, ac aeth ymlaen yn ddiweddarach i gael plât metal wedi'i osod yn ei phen.

Ers hynny, mae Cara, sydd wedi bod yn ornestwr crefft ymladd ers yn dair oed ac sydd wedi hyfforddi crefft ymladd ers yn 14 oed, wedi gwella'n rhyfeddol, er mawr syndod i'w hymgynghorydd.

Cymerodd Cara ran yn y daith gerdded rithwir drwy loncian oherwydd byddai dringo'r grisiau wedi gwneud iddi deimlo'n benysgafn.

Mae ei mam falch wedi ei disgrifio fel 'ysbrydoliaeth i nifer o'r myfyrwyr, yn enwedig y plant'. Dywedodd Cara: "Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a ofalodd amdanaf y noson honno, ac ers hynny.  Wyddoch chi byth beth fydd yn digwydd nesaf, a doeddwn i ddim yn meddwl y byddai hyn erioed yn digwydd i mi. 

"Mae angen i ni gefnogi'r elusen hon cymaint â phosibl er mwyn iddyn nhw barhau i gynnal y gwasanaeth. I rai, mae eu bywyd yn y fantol – mae'n wasanaeth hanfodol."

Bob blwyddyn, mae'r grŵp ffitrwydd yn cymryd rhan mewn Taith Gerdded i gopa'r Wyddfa, ond oherwydd cyfyngiadau presennol y Llywodraeth, cwblhaodd y myfyrwyr y daith mewn ffordd rithwir. Gwnaethant gyfrifo sawl cam roedd angen iddynt ei gymryd er mwyn cwblhau'r daith gerdded, gan gadw at gyfyngiadau'r llywodraeth.

Aeth y cyfranogwyr o'r ysgolion crefft ymladd a ffitrwydd yng Nghaernarfon, Bangor, Pwllheli ac Abergele y tu hwnt i'w targed o £1,500 a chodi £1,810. Roedd y cyhoedd o'r farn bod y digwyddiad codi arian yn 'ddigwyddiad gwych', a rhoddwyd cefnogaeth anhygoel i'r cyfranogwyr drwy gydol y daith.

Wrth feddwl am bwysigrwydd codi arian i'r Elusen, dywedodd Sarah: "Gwnaethom ddewis Ambiwlans Awyr Cymru am ei bod yn elusen sydd wir angen ein cefnogaeth i allu cynnig y gwasanaeth 24/7, yn hytrach na 12 awr y dydd.

"Hefyd, rydym yn teimlo'n agos at yr elusen hon yn bersonol ar ôl iddi achub bywyd fy merch. Aeth yn sâl gydag anaf difrifol i'w phen wrth gymryd rhan yn y gamp roedd hi'n ei hoffi gymaint.

"Er na aeth hi yn yr hofrennydd i'r ysbyty oherwydd y tywydd ofnadwy a'r tywyllwch, daeth Ambiwlans Awyr Cymru ati mewn cerbyd ymateb cyflym a gwneud popeth posibl i'w hachub. Oherwydd ymatebion cyflym pawb y noson honno, goroesodd Cara. Roedd ei hanaf yn ddifrifol ac amser yn brin. Dychmygwch petai modd i'r elusen gynnig gwasanaeth 24/7. Mae mor hanfodol.

Roedd gan yr aelodau wythnos i ddringo 132 rhes o risiau y dydd. Ychwanegodd Sarah ei bod yn credu bod Taith Gerdded Rithwir i ben yr Wyddfa yn anoddach na dringo'r mynydd ei hun.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Gogledd Cymru ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae clywed straeon fel rhai Cara, lle gwnaeth ein meddygon achub ei bywyd, yn dangos pa mor hanfodol yw ein gwasanaeth yng Nghymru. Mae'n hyfryd clywed bod Cara yn gwella'n dda, ac mae'n ysbrydoledig ei gweld yn cymryd rhan mewn Taith Gerdded Rithwir i ben yr Wyddfa 10 mis yn unig yn ddiweddarach. Diolch i bawb a gymerodd ran, a dymunwn yn dda i Cara wrth iddi barhau i wella." 

Ers y damwain, mae Cara wedi penderfynu peidio camu'n ôl i'r cylch cic-focsio, ond mae'n parhau i deimlo'n angerddol dros y gamp.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth o hyd i'r holl staff ac aelodau a gymerodd ran yn y daith gerdded rithwir drwy eu noddi ar eu tudalen Just Giving Habit Fitness Virtual Hike up Snowdon yma.