04/08/2020

Mae cyngherddau byw y canwr opera, John Ieuan Jones, o'i gartref yn ystod y cyfyngiadau symud wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac wedi codi mwy na £10,000 i elusennau.

Cyn y pandemig, roedd y canwr o Landrillo-yn-Rhos yn bwriadu perfformio yng Nghanada ac roedd ar fin dechrau contract yn Grange Park Opera yn Surrey. 

Cynhaliwyd ei gyngerdd diweddaraf yn ystod y cyfyngiadau symud ar ôl i'r canwr bariton gynnal dau gyngerdd blaenorol i godi arian i wahanol elusenau. Cododd dros £1,800 i Ambiwlans Awyr Cymru ac Ataxia UK.

Unwaith y llaciwyd rhai cyfyngiadau symud, roedd John Ieuan yn poeni am nifer y bobl a fyddai'n gwylio. Er gwaethaf ei bryderon, gwyliodd dros 200 o bobl ei gyngerdd byw diweddar, ac ers hynny, mae wedi cael ei wylio 7,000 o weithiau.

Dywedodd: "Aeth y cyngerdd yn dda iawn. Hwn oedd y trydydd cyngerdd i mi ei wneud ar-lein ac felly roeddwn wedi hen arfer â'r drefn a oedd yn golygu fy mod yn gallu ymlacio ychydig yn fwy. Gyda'r cyfyngiadau symud yn llacio, roeddwn yn poeni na fyddai cymaint o bobl yn dangos diddordeb. Fodd bynnag, rwy'n falch nad oedd hynny'n wir a fy mod wedi llwyddo i godi swm da i’r ddwy elusen.

"Rwyf wedi codi tua £10,000 gyda chymorth rhodd rhwng y tri chyngerdd, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r bobl sydd wedi rhoi mor hael.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod y cyngherddau hyn. Mae haelioni pawb wedi fy syfrdanu – roedd yr ymdrech o gynnal y cyngherddau hyn yn sicr yn werth chweil. Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu gwneud rhywbeth bach i helpu rhai elusennau gwych yn ystod y cyfnod anodd hwn, a byddaf yn parhau i helpu ym mha bynnag ffordd bosibl."

Roedd yna westai arbennig ym mhob cyngerdd.  Roedd y cyngerdd diweddaraf yn cynnwys y tenor a Llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru, Rhys Meirion, a ymunodd â John Ieuan i ganu deuawd.   Ymunodd pedwar ffrind da i John Ieuan sef, Ryan Vaughan Davies, Erin Rossington, Steffan Lloyd Owen ac Eiry Price, ag ef hefyd i ganu Anfonaf Angel.  

Roedd ei gyngerdd blaenorol yn cynnwys Syr Bryn Terfel,  noddwr Ambiwlans Awyr Cymru, fel gwestai arbennig.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: ‘‘Mae'n braf clywed bod pobl fel John Ieuan wedi meddwl am ffyrdd gwahanol o ddiddanu'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a'u bod hefyd yn llwyddo i godi arian i gymaint o elusennau. Mae codi dros £10,000 yn anhygoel. Gwerthfawrogir ei gefnogaeth yn fawr iawn, ac rwy'n falch bod dros 200 o bobl wedi gwylio er mwyn mwynhau gwrando ar y canwr opera dawnus. Diolch i bawb sydd wedi noddi. Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion John Ieuan yn fawr."

Codwyd arian i’r elusennau canlynol hefyd drwy'r cyngherddau ar-lein: y DPJ Foundation, Mind, Hosbis Plant Tŷ Gobaith a Hosbis Dewi Sant.