Mae'n bleser gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru gyhoeddi y byddeichaffi poblogaiddCaffi HEMSyn ailagorddydd Sul18 Ebrill yn dilyn y penderfyniad diweddar i lacio'r cyfyngiadau symud.  

Roedd yn rhaid i'rcaffillwyddiannus ym Maes Awyr Caernarfon gau'r drysau ym mis Rhagfyr yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod angen i bob busnes nad yw'n hanfodol gau.  

Bydd y caffi ar agor ar gyfer cludfwyd yn unig, a bydd dewis cyfyngedig o fwydydd ar gael. Bydd Caffi HEMS ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, rhwng 10am a 3pm,  

Er diogelwch y cwsmeriaid a'r staff, bydd CaffiHEMS yndilynyr hollganllawiauiechyd y cyhoedd priodol. Bydd gofyn igwsmeriaidgadw pellter cymdeithasol bob amsera defnyddio dull digyffwrddneu gerdyn i dalu, lle y bo'n bosibl. Byddgorsafoedd diheintio dwylohefyd ar gael i bobl allu cadw eu dwylo yn lân.  

Enillodd CaffiHEMS wobr am y caffi menter gorau yng Ngogledd Cymru yn 2018. Rhoddwyd y teitl mawreddog hwngan SME News, sefallfaar gyfer Prif Swyddogion Gweithredol, arweinwyr a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau mewn BBaChau yn y DU. Mae'r Wobr ar gyfer y Fenter Gymdeithasol Orau yn cydnabod busnesau diwyd a gweithgar a mentrau sydd wedi gweithio'n galed i ddarparu'r cynhyrchion a'r gwasanaethau gorau ar gyfer eu cymunedau amrywiol. 

Mae Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, yn falch o weld y caffi poblogaidd yn ailagor. Dywedodd: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu rhoi dewis cludfwyd i'n cwsmeriaid. Mae diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid yn hollbwysig i ni, a hoffem roi sicrwydd i'n cwsmeriaid ein bod wedi bod yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni er mwyn gwneud yn siŵr bod y caffi yn parhau yn ddiogel. 

“Mae'r staff yn edrych ymlaen at ailagor y caffi poblogaidd, a bydd yn wych gallu croesawu pobl yn ôl. Hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eich cefnogaeth barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf.” 

Ambiwlans Awyr Cymru sy'n rhedeg Caffi HEMS, ac mae'r enw yn deillio o rôl yr Elusen ym maes Gwasanaethau Meddygol Brys Hofrenyddion (HEMS). Mae wedi'i leoli ger arfordir hyfryd Gwynedd yn Ninas Dinlle, ac yn cynnig golygfeydd panoramig anhygoel wrth odre mynyddoedd Parc Cenedlaethol yr Wyddfa. 

Mae pob ceiniog a godwyd yn y caffi yn mynd tuag at waith Ambiwlans Awyr Cymru sy'n achub bywydau.