Mae caffi sy'n cefnogi gwaith Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) sy'n achub bywydau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr yng Ngwobrau Caffi Cymru 2019.

Mae Caffi HEMS, a leolir ym Maes Awyr Caernarfon yn y gogledd, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori nid er elw gorau. Byddant yn cael gwybod os ydynt yn fuddugol mewn seremoni gampus yng Ngwesty'r Exchange yng Nghaerdydd ar nos Fawrth 23 Gorffennaf.

Cynhelir y digwyddiad Gwobrau Caffi Cymru gan Creative Oceanic ond y cyhoedd yng Nghymru sy'n pleidleisio, y rhai hynny sy'n mwynhau coffi da bob dydd pan fyddant yn cael paned yn y bore neu ddiod boeth yn y prynhawn i roi egni iddynt.

Bydd y digwyddiad yn denu'r baristas gorau, arbenigwyr coffi a chynrychiolwyr o gaffis lleol sydd wedi trawsnewid y broses o wneud coffi yn grefft. Bydd y noson yn un gofiadwy a fydd yn dathlu diwydiant caffi'r wlad sy'n cyflogi cannoedd o bobl, gan ehangu ffyniant cymunedau ledled Cymru.

Caiff Caffi HEMS ei redeg gan AAC ac ysbrydolir ei enw gan rôl yr Elusen ym maes Gwasanaethau Meddygol Brys Hofrennydd (HEMS). Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn, gyda gwirfoddolwyr a staff yn gweini amrywiaeth eang o fwyd a byrbrydau blasus. Mae wedi'i leoli ger arfordir hyfryd Gwynedd yn Ninas Dinlle, ac yn cynnig golygfeydd panoramig anhygoel wrth odre mynyddoedd Parc Cenedlaethol yr Wyddfa. Mae pob ceiniog a godwyd yn y caffi yn mynd tuag at waith Ambiwlans Awyr Cymru sy'n achub bywydau.

Dywedodd Lynne Garlick, Rheolwr Codi Arian AAC Gogledd Cymru: "Mae'n anrhydedd cael ein henwebu gan y cyhoedd fel un o'r caffis nid er elw gorau yng Nghymru. Mae'r caffi wir yn ffynhonnell bwysig o incwm i ni, gan nad ydym yn cael unrhyw gyllid yn uniongyrchol gan y llywodraeth na'r loteri genedlaethol ac yn dibynnu'n llwyr ar y cyhoedd yng Nghymru i'n helpu i gyrraedd y targed blynyddol o £6.5 miliwn.  Hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid rheolaidd am eu cymorth cyson ac edrychwn ymlaen at y seremoni wobrwyo yn ddiweddarach y mis hwn."

Cafodd Ambiwlans Awyr Cymru ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2001, fel gwasanaeth ambiwlans awyr cenedlaethol Cymru. Mae'r Elusen yn gweithredu pedwar hofrennydd o leoliadau yng Nghaernarfon, y Trallwng, Caerdydd a Llanelli, sy'n golygu nad yw'r hofrenyddion yn bellach nag ugain munud i ffwrdd o unrhyw le yn y wlad.  Bob blwyddyn, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymateb i 2,500 o alwadau ar gyfartaledd ac ers 2001 mae wedi ymateb i fwy na 30,000 o alwadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwobrau Caffi Cymru 2019: "Coffi yw'r ddiod fwyaf poblogaidd yn fyd-eang ac mae'r fasnach werth biliynau o bunnoedd. Yn ôl Roast and Post, gwariwyd £1Bn ar goffi ym Mhrydain y llynedd.

"O ganlyniad, mae diwydiant caffi Cymru wedi tyfu'n enfawr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda nifer o siopau coffi newydd yn ymuno â'r sector, gan gynyddu'r gystadleuaeth.

"Nod y seremoni hon yw cydnabod y rhai hynny sydd wedi chwarae rôl fawr yn y gwaith o wneud y sector hwn yn un o'r diwydiannau mwyaf proffidiol yn y wlad.

"Heb os, ceir unigolion sy'n hoffi coffi yng Nghymru sydd nid ond yn chwilio am goffi da, ond gwir gampwaith. Mae'r rhai hynny a enwebwyd yn y rownd derfynol yn adlewyrchu'r rhai hynny sy'n rhoi cymaint o ymdrech i ddarparu bwyd, byrbrydau a diodydd poeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid ledled y wlad.

"Hoffem longyfarch pawb am gyrraedd y rhestr fer ac rydym yn dymuno pob hwyl i bob un ohonynt."

Ynghyd â'r categori nid er elw, mae amrywiaeth eang o wobrau eraill yn aros i gael eu cyflwyno i'r gweithwyr proffesiynol a'r sefydliadau haeddiannol, gan gynnwys Entrepeneur Caffi y Flwyddyn, y Siop Goffi Orau, Caffi Mwyaf Croesawgar y Flwyddyn, y Caffi Newydd Gorau a llawer mwy.