Mae tad un plentyn yr oedd angen help ambiwlans awyr arno wedi nodi 10 mlynedd ers y ddamwain a gafodd drwy godi £1,600 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Gwnaeth Brian Ruddin, 52, o Partington ym Manceinion, gwympo uchder sylweddol wrth fynd i lawr Red Gill ar ôl cyrraedd copa mynydd Scafell yn Ardal y Llynnoedd. Cwympodd 60 troedfedd gan dorri ei droed a'i ysgwydd mewn chwe man, yn ogystal â chael anafiadau eraill.

Cafodd ei achub gan dîm o 11 o bobl, a'i gludo mewn hofrennydd i West Cumberland Hospital yn Whitehaven. Ers iddo gwympo mae Brian a'i wraig, Lisa, wedi bod yn codi arian yn rheolaidd i wasanaethau achub mynydd ac ambiwlans awyr.

Mae Brian a'i grŵp cerdded, sef  ‘The Posse’, wedi bod yn rhan o'r gwaith o godi mwy na £16,000 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Yn wreiddiol, roedd Brian yn bwriadu dringo'r Wyddfa chwe gwaith dros bedwar diwrnod yn olynol er mwyn codi arian i'r elusen, ond o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 a'r cyfnod clo, bu'n rhaid iddo wneud cynlluniau amgen. Yn lle hynny, cerddodd Brian hyd cyfan Llwybr Cwm Bollin bob dydd am bedwar diwrnod, am fod y llwybr yn agos i'w gartref. Llwybr 25 milltir yw Llwybr Cwm Bollin, sy'n mynd o Partington i Macclesfield. 

Wrth sôn am y rheswm pam y penderfynodd godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru, dywedodd Brian: “Naw mlynedd yn ôl, gwnes i gwblhau taith gerdded 200 milltir o arfordir i arfordir er mwyn codi arian i'r gwasanaeth Achub Mynydd. Er mwyn nodi 10 mlynedd ers y ddamwain, roeddwn i'n meddwl y byddai'n syniad da i wneud rhywbeth i wasanaeth ambiwlans awyr. Rwy'n treulio'r rhan fwyaf o'm hamser rhydd yng Ngogledd Cymru, felly roedd yn hawdd dewis Ambiwlans Awyr Cymru.

“Os oes gennych geiniog neu ddwy i'w rhoi ar gyfer yr elusen anhygoel hon er mwyn fy helpu i roi rhywbeth yn ôl, byddwn i'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.”

Aeth y rheolwr cludiadau drwy gyfnodau da a gwael wrth wneud yr her. Dywedodd: “O ganlyniad i'r tywydd garw a chyflwr gwael y tir dan draed, roedd pob cam yn heriol. Roedd y tir yn gorslyd iawn ac yn wlyb, felly roedd yn anodd cadw'r traed yn sych, a chefais bothelli ar y diwrnod cyntaf o ganlyniad i hynny. Bu'n rhaid i mi roi tâp ar fy nhraed bob bore cyn cychwyn, ac roedd angen cyflenwad cyson o boenladdwyr i'm helpu i orffen y daith.

“Rhai o uchafbwyntiau'r her oedd cael Jill Entwhistle i gerdded gyda mi ar yr ail ddiwrnod, a Michelle O'Brien ar y trydydd - i roi cefnogaeth i mi. Roedd yn bwysig cael rhywun i gerdded gyda mi ar y diwrnodau hynny er mwyn fy helpu drwy'r cyfnodau anodd.

“Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon mai hon oedd yr her codi arian anoddaf hyd yn hyn - ac rwyf wedi gwneud cryn dipyn ohonynt!”  

Yn ffodus aeth Brian, sy'n dad i Jake, 20, ymlaen i wella'n llwyr ar ôl cyfnod o adfer.

Wrth feddwl am yr arian y mae wedi ei godi i'r elusen yn flaenorol, dywedodd: “Hoffwn feddwl ei bod yn bosibl bod llawer o bobl dal yn fyw heddiw oherwydd y cyfleoedd codi arian rydym wedi eu trefnu. Os yw hynny'n wir, mae'r holl nosweithiau digwsg a'r poeni wedi bod yn werth chweil, a byddwn yn ôl y flwyddyn nesaf heb os yn y gobaith o ychwanegu at y swm.”

Dywedodd Mark Stevens, un o reolwyr codi arian yr elusen: “Gallaf sicrhau Brian a'i gefnogwyr eu bod wedi helpu llawer o bobl ledled Cymru pan oedd ein hangen arnynt. Mae'r elusen yn gwerthfawrogi'r cymorth parhaus hwn yn fawr iawn. Mae'n bwysig iawn nawr am ein bod wedi troi'n wasanaeth 24/7, ac mae angen i ni godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.”

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Brian drwy ei noddi ar ei dudalen Just Giving, 4x4=100 - Bollin Way 4 Times