Dringodd brawd a chwaer caredig o Swydd Henffordd chwe chopa yn ystod eu gwyliau haf er budd Ambiwlans Awyr Cymru a'r GIG.

Cafodd y disgyblion Ashia, 13 oed a Charles Day, 11 oed o Ysgol Uwchradd Weobley, gwmni teulu, ffrindiau, myfyrwyr ac athrawon o'r ysgol drwy gydol eu hymgyrch codi arian 'chwe chopa mewn chwe wythnos'.

Cododd y ddau £1,090 yn ystod yr her i Ambiwlans Awyr Cymru a £668 i'r GIG ar ôl i'w tad, Craig gael strôc enfawr yn y gwaith y llynedd.

Cafodd Craig ei gludo mewn ambiwlans i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Henffordd, ac oddi yno cafodd ei drosglwyddo gan ambiwlans awyr i Ysbyty'r Frenhines Elizabeth Birmingham am lawdriniaeth achub bywyd i godi tri chlot gwaed o'i ymennydd.

Y chwe chopa y gwnaethant eu dringo oedd Penybegwn, Yr Wyddfa, Pumlumon, Twmpa, Cader Idris a gorffen ym Mhen y Fan.

Dringodd y plant Gader Idris ddwywaith ar ôl penderfynu gwneud 'dringfa ychwanegol' ar benwythnos ola'r gwyliau am iddi fod yn niwlog pan ddringon nhw'r mynydd fel rhan o'r her.

Dywedodd eu mam falch, Rachel: "Gwnaethom ddechrau cynllunio her tri chopa, ond nid oedd Ashia yn teimlo bod hyn yn ddigon heriol felly aethom ati i ddringo chwe chopa yn ystod chwe wythnos yr haf.

"Gwnaethom ddringo Cader Idris ddwywaith, felly os ychwanegwch chi Gorn Du yr aethom drosto ar ein ffordd i Ben y Fan, gwnaethom ddringo wyth copa dros wyliau'r haf mewn gwirionedd.

Nid yw codi arian i elusen yn rhywbeth dieithr i Charles gan iddo fynd ati yn ystod Cyfyngiadau Symud Lloegr fis Tachwedd diwethaf i godi £1,420 i Ambiwlans Awyr Cymru a £1,000 i'r GIG am fynd 5k o gwmpas Llanandras bob dydd.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch a chaiff ei ddisgrifio'n aml fel ‘Adran Achosion Brys sy'n Hedfan’. Mae'r meddygon ymgynghorol a'r ymarferwyr gofal critigol yn fedrus iawn, ac yn cario rhai o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd. Mae ganddynt y gallu i drallwyso gwaed, rhoi anesthesia a chynnal llawdriniaethau brys ar safle'r digwyddiad, cyn hedfan y claf yn uniongyrchol i gael gofal arbenigol.

Dywedodd Rachel: "Gwnaethom benderfynu codi arian ar ôl i Craig gael strôc enfawr y llynedd. Roedd y GIG a'r ambiwlans awyr yn neilltuol ac oherwydd iddynt weirthredu mor gyflym a phendant i gael Craig i Birmingham am lawdriniaeth frys i godi tri chlot o'i ymennydd, cafodd ei fywyd ei achub.

"Gwnaeth cyflymder ac effeithlonrwydd yr ambiwlans awyr i'w gludo i Birmingham hefyd warchod personoliaeth ac atgofion Craig, sy'n rhywbeth y byddwn yn ddiolchgar amdano am byth. Roeddem eisiau dweud diolch yn fawr."

Mae Craig yn dal yn yr ysbyty ar ôl 'blwyddyn o lanw a thrai', sydd wedi cynnwys dal COVID-19. Ychydig iawn o symudedd sydd ganddo o hyd ac mae ganddo bellach nam ar y golwg.

Ychwanegodd Rachel: "Rydym yn aros am becyn gofal ar hyn o bryd er mwyn iddo allu dod adref, ac er mwyn i ni allu bod gyda'n gilydd fel teulu unwaith eto."

Dywedodd Helen Pruett, y Swyddog Codi Arian Cymunedol: “Diolch yn fawr iawn i Ashia, Charles a Rachel am godi arian i ddau achos pwysig. Er gwaethaf blwyddyn hynod anodd i'r teulu, maen nhw wedi mynd allan o'u ffordd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru a'r GIG – am ysbrydoliaeth. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd yr elusen ac a gyfrannodd i'r ymgyrch codi arian. Rydym yn dymuno'n dda i Craig wrth iddo wella."

Mae criw o athrawon o Ysgol Uwchradd Weobley, lle mae Craig a Rachel yn athrawon, yn gobeithio cyflawni her y tri chopa yr haf nesaf er mwyn codi rhagor o arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru bedwar hofrennydd wedi'u lleoli ledled Cymru, yn Nafen, Caernarfon, Y Trallwng a Chaerdydd. Gan fod yr Elusen bellach yn gweithredu 24/7, mae angen iddi godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.