Gwisgodd brawd a chwaer o ardal Doc Penfro, Harley a Maisie McNally, eu hesgidiau cerdded i godi £600 i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

Cerddodd y brawd a'r chwaer caredig 20 milltir drwy gydol mis Mawrth fel rhan o her codi arian Fy20 yr Elusen i ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.

Llwyddodd Harley, sy'n saith oed, a'i chwaer fach Maisie, sy'n bump oed, i godi llawer mwy na'u targed gwreiddiol o £50 yr un.

Roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu  ei phen-blwydd yn 20 oed eleni ac, i gydnabod y garreg filltir, creodd yr Elusen  ddigwyddiad codi arian newydd o'r enw Fy20. Rhoddodd y digwyddiad y cyfle i'r cyfranogwyr ddewis eu her, tasg neu weithgaredd eu hunain oedd yn ymwneud  â'r rhif ‘20’ i'w gwblhau yn ystod mis Mawrth’.  

Mae Harley yn gyfarwydd â chodi arian ar gyfer yr Elusen. Mae wedi codi dros £300 yn flaenorol drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Nofio Dydd Calan Saundersfoot y llynedd. Fodd bynnag, dyma oedd digwyddiad codi arian cyntaf Maisie.

Mae eu mam falch, Jessica Hughes, wrth ei bodd bod ei phlant wedi llwyddo i godi cymaint o arian i'r elusen sy'n achub bywydau. Dywedodd: “Roedd y ddau wrth eu bodd. Mae Fy20 wedi eu cadw'n brysur ac wedi'u cadw allan o'r tŷ. Rwyf mor falch o Harley a Maisie, ar oedran eithaf ifanc maent yn gwybod cymaint am y gwasanaeth ac maent wedi codi swm gwych o £600.

“Mae Harley a Maisie yn deall yn iawn pam mae Ambiwlans Awyr Cymru yn angenrheidiol i bawb ac maent hefyd yn adnabod pobl yr oedd angen y gwasanaeth arnynt. Dyma pam roeddent am godi arian i'r elusen, gan wybod bod ei gwasanaethau wedi helpu pobl sâl!”

Dywedodd Katie Macro, Gweithiwr Codi Arian Cymunedol De-orllewin Cymru yr Elusen: “Llongyfarchiadau enfawr i'r ddwy seren codi arian, Harley a Maisie, am gwblhau her Fy20 a chodi £600! Bydd yr hyn y mae'r ddau ohonoch wedi'i wneud, a'r arian rydych wedi'i godi, yn ein helpu ni i helpu eraill.

“Mae bob amser yn wych clywed straeon am blant yn codi arian ar oedran mor ifanc ac yn mwynhau'r her y maent wedi'i dewis. Mae cerdded 20 milltir yn gryn dipyn o dasg i unrhyw un, heb sôn am wneud hynny pan rydych mor ifanc â Harley a Maisie. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r plant yn eu gweithgarwch codi arian diweddaraf.” 

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i'r Disgyblion o Ysgol Gymunedol Doc Penfro o hyd drwy roi arian i'w digwyddiad codi arian Fy20 drwy eu tudalen Just Giving ‘Harley & Maisie’s My20'.