Addewidion ar gyfer y Flwyddyn Newydd... mae pob un ohonom yn eu gwneud, a phob un ohonom yn eu torri! Felly, beth am osod her i chi'ch hun eleni sy'n fwy realistig, yn fwy pleserus ac yn fwy gwerth chweil.

I lawer ohonom, mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn mynd law yn llaw â gwneud addewidion (a'u torri yn amlach na pheidio) ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Ond beth pe baech yn gosod heriau mwy realistig, iach a llawn hwyl i chi'ch hun, a allai helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd? 

Yn lle treulio blwyddyn arall yn meddwl 'beth os?', byddwch yn cael ymdeimlad o hunangyflawniad ac yn cael eich grymuso. Hefyd, byddwch yn helpu ein Helusen i barhau i achub bywydau, gan wybod y gall eich gwaith codi arian helpu i achub bywyd rhywun.

Eleni, mae gan Ambiwlans Awyr Cymru nifer o ddigwyddiadau rhedeg y gallwch gymryd rhan ynddynt. Gallwch ddiogelu lle elusennol drwy godi arian i'r Elusen sy'n achub bywydau. Cynigir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly bydd angen i chi gofrestru'n gyflym. Mae nifer o heriau nad ydynt yn cynnwys rhedeg y gallwch gofrestru ar eu cyfer hefyd, felly cadwch lygad ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru am ragor o fanylion.

Hyd yn oed os na fyddwch yn sicrhau lle elusennol, gallwch helpu i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru o hyd. Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i ddarparu gwasanaeth awyr brys hanfodol i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd. Dyma'r unig elusen ambiwlans awyr a leolir yng Nghymru ac sy'n benodedig iddi.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaeth Ambiwlans Awyr Cymru: “Beth am osod addewid i chi'ch hun ar gyfer y Flwyddyn Newydd a herio eich hun i gymryd rhan yn un o'r digwyddiadau rhedeg sydd ar gael i ni drwy ein partneriaid elusennol.

“Mae bob amser yn dda cael nod i anelu ato a hyd yn oed os nad ydych yn rhedwr, mae digon o amser i gynyddu eich pellter a'ch amser os byddwch yn dechrau'n fuan. Nid yn unig y byddwch yn cyflawni her bersonol ond byddwch hefyd yn helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru ar yr un pryd.

“Drwy eich gwaith codi arian, byddwch yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru bob awr o bob dydd o'r flwyddyn.

“Beth am wneud 2023 yn flwyddyn i'w chofio drwy gefnogi ein Helusen a chofrestru ar gyfer ras heriol.”

 

Marathon a Hanner Marathon Great Welsh

Ble: Parc Gwledig Pembre, Sir Gaerfyrddin

Pryd: Dydd Sul 2 Ebrill 2023

Dywedwch fwy wrthyf: Cwrs cyflym, gwastad a golygfaol ar hyd arfordir Llanelli sy'n dechrau ym Mharc Gwledig Pembre. Mae dau lwybr ar gael, sef marathon 26.2 milltir a hanner marathon 13.1 milltir. Mae'n addas ar gyfer pob gallu.

Targed Codi Arian: £200

Lleoedd gwag sydd ar gael: Hyd at 20 

Sut i gofrestru: Ambiwlans Awyr Cymru | REALBUZZ neu e-bostiwch [email protected]

 

Hanner Marathon Abertawe

Ble: Arena Abertawe

Pryd: Dydd Sul 11 Mehefin 2023

Dywedwch fwy wrthyf: Mae Hanner Marathon Abertawe, sy'n ras 13.1 milltir, yn dechrau o flaen Arena eiconig Abertawe, cyn mynd drwy ganol y ddinas yn ôl tuag at Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yna allan i Knab Rock yng ngolwg y goleudy. Yna, byddwch yn mwynhau golygfeydd hardd Bae Abertawe cyn dychwelyd i'r ffordd ar Brynmill Lane i'r llinell derfyn wrth Arena Abertawe.

Targed Codi Arian: £200

Lleoedd gwag sydd ar gael: Hyd at 20 

Sut i gofrestru: Ambiwlans Awyr Cymru | REALBUZZ neu e-bostiwch [email protected]

 

Ironman 70.3

Ble: Abertawe

Pryd: Dydd Sul 16 Gorffennaf 2023

Dywedwch fwy wrthyf: Profwch yr harddwch naturiol ar hyd glannau Bae Abertawe sy'n arwain at y Mwmbwls, cyn beicio ar hyd Penrhyn Gŵyr gan werthfawrogi ei dirwedd hynod. Bydd y cwrs nofio un ddolen 1.2 milltir (1.9km) yn dechrau wrth Ddoc Tywysog Cymru. Bydd y cwrs beicio un ddolen 56 milltir (90km) yn mynd drwy'r Mwmbwls ar hyd clogwyni arfordirol Gŵyr cyn mynd drwy gefn gwlad Abertawe ac yn ôl ar hyd Bae Abertawe i mewn i'r ddinas. Yn olaf, bydd yr athletwyr yn rhedeg cwrs dwy ddolen 13.1 milltir (21.1km) a fydd yn mynd â nhw o ganol y ddinas, allan heibio i Arena drawiadol ac euraid newydd Abertawe, tuag at y Mwmbwls cyn dychwelyd at y llinell derfyn wrth y Marina.

Lleoedd gwag sydd ar gael: Lleoedd cyfyngedig (digwyddiad poblogaidd!)

Targed Codi Arian: £800

Sut i gofrestru: E-bostiwch [email protected]

 

Ironman Cymru

Ble: Dinbych-y-pysgod 

Pryd: Dydd Sul 3 Medi

Dywedwch fwy wrthyf: Mae'r ras hon, sy'n denu cefnogwyr o bedwar ban byd, yn un arwrol. Daw Ironman Cymru â thref glan môr ddeniadol Dinbych-y-Pysgod yn fyw wrth i'r athletwyr nofio 2.4 milltir ar Draeth y Gogledd gyda'r wawr, beicio 110 milltir ar hyd arfordir hardd Sir Benfro, a rhedeg 26.2 milltir drwy ganol y dref ganoloesol i gefnogaeth torf frwd.

Lleoedd gwag sydd ar gael: Lleoedd cyfyngedig

Targed Codi Arian: £1,500

Sut i gofrestru: E-bostiwch [email protected]

 

Hanner Marathon Llanelli

Ble: Parc y Scarlets, Llanelli 

Pryd: Dydd Sul 24 Medi

Dywedwch fwy wrthyf: Mae'r digwyddiad 13.1 milltir yn dechrau ac yn gorffen yng nghartref tîm rygbi arwrol y Scarlets, Parc y Scarlets. Bydd y rhedwyr yn mynd heibio i'r cerflun enwog o Ray Gravell cyn ymuno â llwybr arfordir y Mileniwm, gan fwynhau rhai o olygfeydd gorau Sir Gaerfyrddin.

Lleoedd gwag sydd ar gael: Hyd at 20 

Targed Codi Arian: £200

Sut i gofrestru: Ambiwlans Awyr Cymru | REALBUZZ neu e-bostiwch [email protected]

 

Hanner Marathon Caerdydd

Ble: Canol Dinas Caerdydd

Pryd: Dydd Sul 1 Hydref

Dywedwch fwy wrthyf: Hanner Marathon Caerdydd yw un o ddigwyddiadau hanner marathon mwyaf Ewrop a digwyddiad cyfranogiad torfol ac aml-elusennol mwyaf Cymru, gan ddenu mwy na £27,500 o redwyr cofrestredig ochr yn ochr ag athletwyr byd-enwog. Mae'r digwyddiad 13.1 milltir yn gwrs gwastad, cyflym sy'n mynd heibio i olygfeydd a thirnodau mwyaf hardd ac eiconig y brifddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, Y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd hardd.

Lleoedd gwag sydd ar gael: Hyd at 50 

Targed Codi Arian: £1,500: £200

Sut i gofrestru: Ambiwlans Awyr Cymru | REALBUZZ neu e-bostiwch [email protected]

Am ragor o wybodaeth ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Ambiwlans Awyr Cymru.