Mae digwyddiad gwobrau busnes sydd â'r nod o gydnabod llwyddiannau ymysg menywod wedi codi £1,700 i Ambiwlans Awyr Cymru.

 

Penderfynodd y Best Business Women Awards, a gynhelir yn Llundain bob blwyddyn, gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru eleni drwy gynnal raffl elusennol yn ystod y digwyddiad.

 

Mae'r Best Business Women Awards, a sefydlwyd yn 2015 gan yr entrepreneur llwyddiannus Debbie Gilbert, yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddiwydiannau drwy 21 o gategorïau gwobrau ac mae'n cydnabod ac yn gwobrwyo talent menywod mewn busnes.

 

Dros y pedair blynedd y mae'r gwobrau wedi'u cynnal, mae dros 3,000 o fenywod wedi cymryd rhan gyda mwy na 1,200 o bobl yn mynychu bob blwyddyn.

 

Yn ystod y seremoni wobrwyo fawreddog eleni, gwahoddwyd Angela Hughes, Prif Swyddog Gweithredol Ambiwlans Awyr Cymru, i siarad am yr elusen.

 

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Angela: "Roedd yn anrhydedd o'r mwyaf cael gwahoddiad, nid yn unig i gynrychioli'r elusen ar lwyfan cenedlaethol, ond i siarad am y gwaith o achub bywydau rydym yn ei wneud yng Nghymru. Roedd yn gyfle ardderchog i roi gwybod i bobl am waith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru i Blant a sut rydym yn achub bywydau rhai o gleifion ieuengaf Cymru.

 

Yn 2018, ymatebodd Ambiwlans Awyr Cymru i 2828 o argyfyngau, gyda 367 ohonynt yn cynnwys cleifion sy'n blant. Ambiwlans Awyr Cymru i Blant yw pedwerydd hofrennydd yr elusen, sy'n rhoi gofal arbenigol i rai o gleifion ieuengaf Cymru. Mae'r criwiau ymroddedig yn cludo cleifion pediatrig a newyddenedigol drwy'r awyr i ysbytai arbenigol ledled y DU.

 

Ychwanegodd Angela: "Roedd yn braf gweld cynifer o fenywod talentog yn cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion a chael cyfle i ddathlu eu llwyddiant. Hoffem longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a'r enillwyr a hoffem ddiolch i'r holl drefnwyr a phawb a roddodd arian i ni yn ystod y digwyddiad. Bydd y swm hael o £1700 a godwyd yn ystod y noson yn sicrhau y gallwn barhau i hedfan er mwyn achub bywydau ledled Cymru."