Bachgen ysgol i gerdded 100 milltir mewn chwe wythnos ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru Mae bachgen ysgol 6 oed hynod garedig am dreulio gwyliau'r haf yn cerdded 100 milltir ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Pan ofynnodd Lotti, mam Henry Russell, iddo beth yr hoffai ei wneud yn ystod gwyliau'r ysgol – dywedodd y byddai'n hoffi mynd 'ar nifer o deithiau cerdded hir', a gosododd yr her anhygoel iddo'i hun i gerdded 100 milltir mewn cyfnod o chwe wythnos. Dywedodd ei fam yn falch: "Gofynnais hefyd iddo a hoffai godi arian i elusen. Roedd wrth ei fodd gyda'r syniad! Pan roeddwn yn rhestru'r amrywiaeth o elusennau iddo, dechreuodd ofyn llawer o gwestiynau am Ambiwlans Awyr Cymru. Eglurais yr hyn y byddant yn ei wneud a bod Matt, ei dad, wedi gorfod defnyddio'r elusen yn ôl yn 2021. Felly, dyna wnaeth ei helpu i benderfynu pa elusen i'w chefnogi." Bydd Henry, gyda chefnogaeth ei deulu gan gynnwys Emily ei chwaer fach, yn mynd ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro, yn rhedeg 'park runs' Colby, yn ogystal â cherdded yn hamddenol drwy goedwigoedd. Bydd y teulu'n dogfennu eu cynnydd ar hyd y ffordd hefyd. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. Gosododd Henry, sydd o sir Gaerfyrddin ac yn ddisgybl yn Ysgol Tavernspite, y targed codi arian o £200 iddo'i hun ac mae wedi ei gyrraedd yn barod, ac wedi codi swm anhygoel o £315. Mae rhai o deithiau cerdded Henry wedi cynnwys mynd ar hyd llwybrau cerdded Marros yn ogystal â llwybr yr arfordir o Telpyn i Marros, a gymerodd 3 awr a 3 munud. Mae Lotti wrth ei bodd â'r gefnogaeth mae'n ei dderbyn, ychwanegodd: "Mae pawb wedi rhyfeddu ac yn ei annog gymaint. Mae rhai o'i ffrindiau ysgol wedi gofyn am gael ymuno â rhai o'i deithiau cerdded hefyd." Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae Henry'n fachgen ifanc anhygoel. Mae wedi gosod her enfawr iddi'i hun yn ystod chwe wythnos gwyliau'r ysgol, er mwyn codi arian sydd ei wir angen ar ein Helusen sy'n achub bywydau. Rydym yn falch iawn o glywed ei fod wedi dewis ein Helusen ni ar ôl i'n meddygon helpu Matt, ei dad, yn 2011. Bydd ymgyrchoedd i godi arian, fel un Henry, yn sicrhau ein bod yn parhau i wasanaethu pobl Cymru pan fydd ein hangen arnynt fwyaf. “Diolch i bawb sy'n cefnogi Henry gyda'i her. Pob lwc Henry. Rwyt yn gwneud yn wych hyd yn hyn!" Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Henry drwy roi arian i'w ymgyrch 'Henry walks 100 miles in the summer' drwy ei dudalen JustGiving www.justgiving.com/page/henry-walks-100miles Manage Cookie Preferences