Mae bachgen ysgol pedair oed ysbrydoledig wedi codi £1,435 drwy ddringo Pen y Fan union flwyddyn ers marwolaeth ei dad i godi arian ar gyfer yr elusen a frwydrodd i achub ei fywyd.

Dringodd Calan-James Rees o Gastell-nedd, yng nghwmni ei fam, Gemma Lewis, a thua 30 o aelodau o'r teulu, gopa uchaf De Cymru ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn awr a 21 munud er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Cynhaliwyd y daith er cof am dad Calan, Sam Rees, a fu farw mewn damwain beic modur oddi ar y ffordd drasig yn Nhairgwaith ar 30 Awst 2020.

Yn gwmni i'r teulu ar eu taith i fyny Pen y Fan roedd tedi bêr atgofion Sam, a gafodd ei wneud o byjamas Sam ac sy'n cynnwys rhywfaint o'i ludw yn y bol. 

Cafodd Calan, sydd newydd ddechrau yn nosbarth derbyn Ysgol Gwaun Cae Gurwen, gwmni ei ffrindiau Seren a Theo, hefyd.

Dywedodd ei fam falch, Gemma: “Gwnaeth Calan ymdopi'n dda â'r her, a mwynhau pob eiliad, ac er ein bod ni wedi blino, roedd yn brofiad gwerth chweil iawn. Cawsom gymaint o gefnogaeth gan y gymuned, teulu a ffrindiau ar y diwrnod. Gwnaeth mam-gu a thad-cu Sam, Henry ac Elaine, ein cefnogi o waelod y mynydd, ac roedd ganddynt baneidiau o de a bisgedi yn barod ar ein cyfer ar ôl i ni orffen. Roedd yn brofiad anhygoel i'r ddau ohonon ni, ac roedd y boen a'r straen yn werth chweil iawn."

Dangosodd Ysgol Gwaun Cae Gurwen ei chefnogaeth i'w disgybl Calan-James drwy godi £100 tuag at ei ymgyrch codi arian drwy gynnal taith gerdded noddedig fewnol o amgylch yr ysgol.

Mae Gemma wrth ei bodd eu bod wedi rhagori ar eu targed codi arian o £1,000, a dywedodd, yn llawn emosiwn: “Dwi mor falch, a'r cyfan dwi wedi ei wneud yw crio. Dwi'n falch iawn o Calan, ac mae'n dangos ei fod wedi gwneud y cyfan er cof am ei dod ar gyfer elusen anhygoel sy'n haeddu'r holl roddion. Roedden ni am roi rhywbeth yn ôl i'r bobl wych hyn er mwyn diolch iddyn nhw am eu hymroddiad, eu cariad a'u hymdrech i achub bywydau, a cheisio achub bywydau, bob dydd.”

Mae caffi lleol yn Rhydaman, Ygeginfach Café Diner,  hefyd wedi dangos ei gefnogaeth i Gemma a Calan drwy gynnal digwyddiad cacennau elusennol i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyflawnodd yr Elusen ei nod o weithredu fel gwasanaeth 24/7. Erbyn hyn, mae gofal critigol o safon Adran Achosion Brys y gwasanaeth ar gael yng Nghymru ddydd a nos, ac mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr.       

Dywedodd Elin Murphy, Gweithiwr Codi Arian Ambiwlans Awyr Cymru: “ Llongyfarchiadau i Calan a Gemma ar gyrraedd y copa a chodi swm anhygoel o £1,435 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd y ddau ohonynt yn benderfynol o godi arian i'r Elusen a geisiodd achub bywyd Sam, er gwaethaf eu profiad torcalonnus. Dim ond pedair oed yw Calan-James, a dringodd gopa uchaf De Cymru union flwyddyn ers marwolaeth ei dad, sy'n gamp anhygoel. Mae'r ddau ohonynt yn ysbrydoliaeth! Ni fyddai'r elusen yn bodoli heb gefnogaeth codwyr arian fel Gemma a Calan-James.

“Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y ddau ohonynt yn ystod yr her ac a roddodd i'r ymgyrch codi arian. Bydd yr arian a godwyd yn ein helpu ni i helpu eraill mewn angen.” 

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, ymuno â Loteri Achub Bywydau'r Elusen neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.