Mae mam i un wedi cwblhau mwy na 150 o filltiroedd drwy gydol mis Medi, drwy redeg a cherdded, i godi £700 i elusen a achubodd ei bywyd.

Gwnaeth Angharad Jenkins, sydd o Rydaman yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yng Nghasllwchwr, osod yr her i'w hun er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad o Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r elusen ei hachub yn dilyn damwain car yn 2013.

Cafodd y car yr oedd hi'n teithio ynddo ei daro gan lori a oedd yn teithio ar gyflymder o tua 50mya ar y ffordd sy'n arwain o Dycroes, Rhydaman i gylchfan Pontabraham.

Er iddi dorri esgyrn, llwyddodd Angharad i adael y car a gorwedd ar y glaswellt ar ymyl y ffordd i aros am gymorth gyda'i ffrind.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Angharad: “Fwy na thebyg, achubodd meddygon Ambiwlans Awyr Cymru fy mywyd, yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd eithaf difrifol. Wrth i'm ffrind orwedd wrth fy ymyl wedi anafu ac yn sgrechian mewn anobaith, dechreuodd fy nghorff gau i lawr wrth i mi fynd i sioc ar ochr y ffordd.

“Llwyddodd Ambiwlans Awyr Cymru i gyrraedd y safle yn gyflym, gan roi'r gofal meddygol critigol roedd ei angen arnaf cyn i'r criw fy nghludo'n gyflym i Ysbyty Treforys lle roedd y tîm trawma anhygoel wrth law. Mae gen i anafiadau gydol oes yn sgìl y ddamwain, ac mae'r rhain wedi gadael creithiau meddyliol a chorfforol ar eu hôl.”

Mae Angharad, sy'n fam i Cari sy'n dair oed, yn disgrifio’r ddamwain fel un a roddodd iddi ‘benderfyniad heb ei debyg’. Roedd ei hanafiadau yn cynnwys pigwrn dde wedi torri, llaw chwith wedi torri, dwy asen wedi'u torri, ligamentau wedi'u rhwygo yn ei throed chwith a'i phen-glin dde, rhwygiadau dwfn a chreithio ar y penelinoedd a'r goes dde, gwaedu yn yr abdomen ac ychydig o Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Yn dilyn y ddamwain, treuliodd Angharad 12 diwrnod yn yr ysbyty a dau fis mewn cadair olwyn oherwydd graddau ei holl anafiadau gyda'i gilydd.

Dangosodd y gweithiwr cymorth camddefnyddio sylweddau o Sir Gaerfyrddin ei bod yn benderfynol o gwblhau'r her drwy redeg 75 o filltiroedd a cherdded 76 o filltiroedd.

Er mwyn cwblhau'r milltiroedd yn ddyddiol, roedd Angharad yn gosod larwm am 4.30am bob dydd. Roedd hyn yn rhoi digon o amser iddi gwblhau'r her heb iddi effeithio'n sylweddol ar ei llwyth gwaith na'i bywyd teuluol.

Wrth feddwl am gwblhau'r her yn ystod yr un mis â'i damwain yn 2013, dywedodd Angharad: “Rwyf wedi blino'n lân ond yn eithaf penderfynol o gwblhau her newydd. Rwyf hefyd yn ymrwymedig i gynnal fy lefel ffitrwydd uwch newydd.

“Gwthiais fy nghorff yn rhy galed yn ystod yr wythnos gyntaf a datblygais gwlwm poenus yng nghroth fy nghoes. Cymerodd ychydig o ddiwrnodau i wella, ond dysgais wrando ar fy nghorff a pheidio â gwthio fy hun yn ormodol o hynny ymlaen.

“Mae mis Medi bob amser yn fis o ystyried pa mor bell rwyf wedi dod wrth wella, a gwnes gwblhau her “7 milltir ar gyfer 7 mlynedd” ar y diwrnod penodol hwnnw.”

Mae Angharad wedi gwerthfawrogi'r gefnogaeth y mae wedi'i chael yn ystod yr her. Ymunodd ei phartner, Joe, â hi ar gyfer rhai o'r teithiau rhedeg hirach, a cherddodd ei merch, Cari, a'i chi, Bailey, gryn dipyn hefyd. Cerddodd ei ffrind, Rachel, 6 milltir ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm hefyd er mwyn ei chefnogi.

Hoffai Angharad ddiolch i'w theulu, ffrindiau, cydweithwyr a dieithriaid sydd wedi noddi, rhannu ei stori a'i chefnogi ar hyd y daith, yn ogystal â'i phartner, Joe, am fod yn gefn anhygoel iddi.

Mae Angharad bellach wedi cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ym mis Mawrth er budd yr elusen hofrenyddion sy'n achub bywydau.

Dywedodd: “Mae wedi fy ysbrydoli i ddyfalbarhau, i osod a gwireddu nodau newydd a chodi mwy o arian i'r elusen.”

Dywedodd Mark Stevens, Rheolwr Codi Arian De Cymru Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau i Angharad sydd wedi dangos ei hagwedd benderfynol, er gwaethaf yr hyn y mae wedi'i brofi. Mae ei hymrwymiad i godi bob dydd am fis am 4.30am, wrth weithio a magu teulu ifanc, yn anhygoel.

“Mae bob amser yn codi calon wrth glywed am straeon fel un Angharad, ac rydym yn falch iawn o glywed y bydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er budd ein helusen. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu'n ariannol at yr her, a diolch yn fawr iawn i bawb a ymunodd ag Angharad i gerdded neu redeg. Gwerthfawrogir eich cyfraniad yn fawr.”

Gallwch noddi Angharad am gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd drwy ei thudalen Just Giving – Cardiff Half 28/03/2021.