Oes gennych chi yr hyn sydd ei angen i gymryd rhan yn her rhedeg mynydd anoddaf y byd, gan redeg 236 o filltiroedd ar hyd tiroedd mynyddig gwyllt, di-lwybr ac anghysbell Cymru?

Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymuno â threfnwyr Ras Cefn y Ddraig Montane i gynnig lle am ddim, gwerth £1,599, i un athletwr lwcus gymryd rhan yn y ras pellter eithafol. Bydd y cyfranogwr llwyddiannus yn rhedeg gwerth 1.5 marathon bob dydd dros gyfnod o  chwe diwrnod, gan gychwyn yng Nghastell Conwy a gorffen yng Nghastell Caerdydd.

Bydd Ras Cefn y Ddraig Montane yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 4 Medi a dydd Sadwrn 9 Medi 2023. Bydd gwylwyr yn cael eu hannog i floeddio cymeradwyaeth i'r “dreigiau” llwyddiannus yng Nghastell Caerdydd ar gyfer y diweddglo mawr.

Peidiwch â chael eich twyllo mai digwyddiad rhedeg llwybrau hwn; mae'r cwrs yn cynnwys mannau cadarnhau ar hyd asgwrn cefn mynyddig Cymru, lle mae'r tiroedd weithiau'n eithafol. Bydd angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yn rhedwyr mynydd hyderus sydd â phrofiad o lywio a rhedeg ar dir garw. Oes gennych chi'r penderfynoldeb a'r gwytnwch i wthio'ch corff i'r eithaf er mwyn llwyddo?

Os felly, yna hoffem glywed gennych! Bydd disgwyl i enillydd y lle elusennol am ddim godi o leiaf £2,000 i Ambiwlans Awyr Cymru. Er mwyn rhoi cynnig arni, anfonwch fideo o'ch hun erbyn dydd Mercher 7 Rhagfyr at y panel o feirniaid, yn esbonio pam rydych yn credu y gallwch chi goncro ras fynydd anoddaf y byd.

Ar y panel bydd yr athletwr Richard Gardiner, a enillodd y lle elusennol yn Ras Cefn y Ddraig Montane llynedd.

Er nad yw digwyddiadau rhedeg eithafol yn ddieithr iddo, ac yntau wedi ennill Teitl Pellter Eithafol y Gymanwlad, cynrychioli Prydain Fawr nid yn unig yn yr Ironman ond hefyd mewn digwyddiadau marathon a hanner marathon, ac ennill sawl ras a thriathlon, methodd y tad i ddau â chwblhau cam olaf y ras.

Mae Richard yn cefnogi'r digwyddiad eleni ac wedi cynnig rhoi cyngor i'r rhedwr elusennol llwyddiannus wrth baratoi ar gyfer y ras.

Dywedodd: “Mae Ras Cefn y Ddraig Montane yn gyfle unigryw a fydd yn rhoi atgofion bythgofiadwy i'r cyfranogwyr. Mae'n antur unigryw sy'n cynnig golygfeydd anhygoel ac ymdeimlad gwych o gwmnïaeth ond sy'n eich herio i'r eithaf!

“Nid ar chwarae bach y dylai unrhyw un gymryd rhan y flwyddyn nesaf. Mae'r hyfforddiant a'r paratoi ar ran gwytnwch a rhedeg mynydd fisoedd o flaen llaw yn allweddol. Yn bersonol, wnes i ddim gwerthfawrogi'r gwaith paratoi yn llawn, ac er bod gennyf gefndir mewn chwaraeon sy'n rhoi prawf ar wytnwch corfforol, methais â chwblhau'r diwrnod olaf.

“Serch hynny, mae'n un o fy nghyflawniadau a'm profiadau gorau ym maes chwaraeon o hyd. Cefais gymaint o brofiadau cadarnhaol; rhai nad oeddwn i wedi eu disgwyl. Ond nid yw'n her i bawb. Rwyf wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cystadleuol drwy gydol fy mywyd ac roedd angen i mi gael y profiad eithaf hwn. Dydw i ddim yn teimlo bod gen i ddim i'w brofi mwyach, ac rwyf mewn lle da erbyn hyn, yn enwedig am fy mod wedi gallu ei wneud dros elusen.

“Byddaf yn barod i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus nesaf. Rwy'n hapus i rannu unrhyw gyngor ac i helpu mewn unrhyw ffordd bosibl, er mwyn iddo allu dysgu o fy nghamgymeriadau a chael y profiad gorau posibl yn Ras Cefn y Ddraig Montane y flwyddyn nesaf dros Ambiwlans Awyr Cymru.”

Mae angen i'r Elusen godi £8 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae'n darparu gwasanaeth awyr brys a hanfodol 24/7 i'r rhai hynny sy'n wynebu salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd a dyma'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n benodol ar gyfer Cymru. 

Dywedodd Shane Ohly, Cyfarwyddwr Ras Cefn y Ddraig Montane, ei fod wrth ei fodd parhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru am yr ail flwyddyn.

Dywedodd: “Mae Ras Cefn y Ddraig Montane yn archwilio tirweddau prydferth ac unigryw mynyddoedd Cymru wrth i gyfranogwyr redeg ar hyd y wlad o Gastell Conwy i Gastell Caerdydd.

 “Bydd gweithio gydag Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n cynnig gofal mewn argyfwng ac sy'n achub bywydau am ddim ym mhob rhan o'r wlad, yn ffordd wych o gefnogi'r cymunedau lleol y byddwn yn mynd drwyddynt. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at gwrdd â'r rhedwr a fydd yn manteisio ar y lle elusennol hwn ac yn mynd i'r afael â'r her anhygoel hon dros achos mor wych.”

Mae gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol uwch ledled Cymru. Caiff ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru). O ganlyniad, mae'r gwasanaeth yn un a arweinir gan feddygon ymgynghorol a chaiff ei adnabod fel ‘adran achosion brys sy'n hedfan’, gan fynd â thriniaethau o safon ysbyty i'r claf ar safle'r digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, trallwyso gwaed a chynnal llawdriniaethau bach, a hyn oll ar safle digwyddiad.

Dywedodd Tracey Ann Breese, Swyddog Codi Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'n gyffrous iawn gallu cynnig lle am ddim i un o gefnogwyr penderfynol Ambiwlans Awyr Cymru yn Ras Cefn y Ddraig Montane eto eleni. Rwyf wedi dilyn y ras ers sawl blwyddyn erbyn hyn ac mae gennyf barch mawr at y rhai sy'n cymryd rhan ac yn ymgymryd â'r her eithafol hon.

“Mae rheswm pam maen nhw'n ei galw'n ras fynydd anoddaf y byd. Mae taith Richard y llynedd yn ysbrydoledig iawn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y clipiau fideo eleni gan ymgeiswyr sy'n barod ac yn abl i fynd i'r eithafion hyn er mwyn helpu'r elusen a helpu pobl Cymru pan fydd arnynt ein hangen fwyaf.”

Oes gennych chi'r un penderfynoldeb â Richard i ymgymryd â'r her? Rhaid anfon pob clip fideo drwy e-bost at [email protected] erbyn dydd Mercher 7 Rhagfyr.

I gael rhagor o wybodaeth am Ras Cefn y Ddraig ewch i www.dragonsbackrace.com

Lluniau: ©Dragon’s Back Race | No Limits Photography