Cynhelir Wythnos yr Ambiwlans Awyr 2021 ledled y DU rhwng 6 a 12 Medi, gan godi ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n achub bywydau gwych y mae elusennau ambiwlans awyr ledled y DU yn ei wneud, ac yma yng Nghymru, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dathlu gyda chymorth un o gyn-chwaraewr rygbi Cymru, James Hook.

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol, a drefnwyd gan Ambiwlansys Awyr y DU, bydd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd yn ymuno ag elusennau ambiwlans awyr eraill ledled y DU mewn ymgyrch o'r enw Mae Pob Eiliad yn Cyfrif ac Mae Pob Ceiniog yn Bwysig.

Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y gofal sy'n achub bywydau cyn mynd i'r ysbyty y mae elusennau ambiwlans megis Ambiwlans Awyr Cymru yn ei roi'n uniongyrchol i gleifion ag anafiadau sydyn sy'n bygwth bywyd neu argyfwng meddygol; sef, yn y bôn, dod â'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys i'r claf pan fydd pob eiliad yn cyfrif.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ymateb i tua 3,500 o alwadau y flwyddyn ledled Cymru, ac mae'n rhan bwysig o'r gwasanaethau brys yng Nghymru sy'n cefnogi'r GIG. Ers ei sefydlu yn 2001, mae'r elusen wedi ymateb i fwy na 40,000 o alwadau, ac mae'n cael ei hariannu bron yn gyfan gwbl drwy roddion gan y cyhoedd, sy'n golygu bod pob ceiniog yn cyfrif.

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn galw ar bobl o bob cwr o Gymru i gefnogi'r Elusen yn ystod Wythnos yr Ambiwlans Awyr er mwyn sicrhau y gall barhau i achub bywydau pobl fel Steven Landrey, 51 oed, a aeth yn sâl pan oedd allan yn beicio gyda'i ffrindiau y llynedd. Cafodd Steven ataliad y galon a stopiodd anadlu.

Diolch byth, llwyddodd Ambiwlans Awyr Cymru i ymateb yn gyflym a chyrraedd Steven yn fuan, er mwyn rhoi'r gofal sy'n achub bywydau yr oedd ei angen arno.

Dywedodd Steven, o Sir Benfro: “Fel pob claf arall, roeddwn i mewn sefyllfa ofnus a bregus, a heb ymateb cyflym a gofal o ansawdd uchel tîm gofal critigol Ambiwlans Awyr Cymru ac eraill a oedd yn bresennol, mae'n bosibl na fyddwn i yma heddiw.”

Dywedodd James Hook, llysgennad yr elusen: “Rwy'n falch o fod yn llysgennad Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'n elusen sy'n agos iawn at fy nghalon gan ei bod wedi rhoi gofal brys i fy mab hynaf ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl pan aeth yn sâl iawn. Mae'n Elusen wych a dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi tan fod ei hangen arnoch.”  

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: “Yn ogystal â bod yn gyfle i roi gwybod i bobl am ein gwaith sy'n achub bywydau, mae Wythnos yr Ambiwlans Awyr hefyd yn gyfle i ddweud diolch.  Diolch i bawb sy'n gweithio yn y gwasanaeth, i bob un o'n gwirfoddolwyr gwych ac i'n cefnogwyr hynod hael. Mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at ein nod o achub bywydau. Yn syml iawn, ni fyddai ein helusen yn bodoli hebddynt.”  

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian gartref. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.  

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5. 

I ddathlu Wythnos yr Ambiwlans Awyr, mae Ambiwlansys Awyr y DU, Rotari ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon a Raffolux, y cwmni raffl ar-lein, wedi ymuno â'i gilydd i lansio cystadleuaeth 'Mae Pob Eiliad yn Cyfrif’, sy'n cynnig y cyfle i bobl ennill Audi Q3 a chefnogi eu helusen ambiwlans awyr leol ar yr un pryd. I gael rhagor o wybodaeth ac i chwarae, ewch i  www.everysecondcountsraffle.co.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos yr Ambiwlans Awyr, ewch i www.airambulancesuk.org/airambulanceweek