Mae menyw benderfynol o Sir Benfro yn bwriadu rhoi ail gynnig ar osod record newydd yr wythnos nesaf drwy redeg ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro yn yr amser cyflymaf.

Nod Sanna Duthie, sy’n 32 oed ac yn byw yn Aberdaugleddau, yw bod yr ail berson erioed i redeg ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro i gyd, sef 186 o filltiroedd.

Aeth Sanna ati i geisio torri'r record ym mis Awst y llynedd, ond bu'n rhaid iddi roi'r ffidil yn y to ar ôl cwblhau mwy na 63 milltir er ei diogelwch ei hun, o ganlyniad i'r tywydd ofnadwy.

Mae'n gobeithio cwblhau’r her mewn llai na 64 awr a 32 munud, gan achub ar y cyfle i godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Mae Sanna eisoes wedi rhagori ar ei tharged codi arian o £2,000 drwy godi'r swm anhygoel o £2,300.

Cafodd y record gyfredol ei gosod gan Richard Simpson o Hwlffordd, a gwblhaodd yr her yn 2018.

Fel rhedwraig uwchfarathonau, mae eisoes wedi rhedeg 100 milltir mewn llai na 28 awr, ond ei gobaith nawr yw gwella ar hynny a chodi arian i elusen sy'n bwysig iawn iddi ar yr un pryd.

Wrth feddwl am sut mae'n teimlo am roi cynnig arall ar yr her, dywedodd Sanna, sy'n hoff o redeg ‘rasys gwirion’: “Rwy'n nerfus iawn ond yn teimlo'n benderfynol ac yn gryf. Rwyf wedi gwneud fy ngorau glas o ran hyfforddi, drwy redeg mwy na 300 o filltiroedd y mis ers mis Mawrth 2020. Hoffwn fod wedi cael mynd i'r gampfa, ond rwyf wedi gwneud yr hyn a allaf gartref. Rwyf wedi bod allan ar wahanol rannau o lwybr yr arfordir ers i'r cyfyngiadau cael eu llacio ac mae mewn cyflwr da.”

Yn dibynnu ar y tywydd bydd Sanna, sydd wrth ei bodd â faint o arian y mae wedi ei godi, yn dechau'r her am 8am ddydd Ian, 6 Mai yn Llandudoch ac yn gorffen yn Amroth ddydd Sadwrn, 8 Mai.

Mae Sanna wedi cael llawer o gefnogaeth gan ei phartner, ei theulu a'i ffrindiau wrth iddi baratoi at yr her: “Mae fy nhad a fy mhartner wedi bod yn wych, gan wneud yn siŵr fy mod yn cael rhywbeth i'w fwyta a thrwy fod yno i mi. Mae fy ffrindiau wedi bod yn wych, ac er nad ydyn ni wedi gallu rhedeg gyda'n gilydd, mae'n codi fy nghalon gwybod eu bod yn fy nghefnogi. Gobeithio y bydd modd i rai ohonynt ymuno â mi ar y daith – byddai'n wych cael cyfle i ddal i fyny, ac yn ffordd dda o dynnu fy sylw oddi ar y gwaith caled.” 

Dywedodd Katie Macro, Cydgysylltydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru yn y De-orllewin: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Sanna am ymgymryd â'r her enfawr hon unwaith eto. Mae ei dyfalbarhad yn rhagorol, a hyd yn hyn mae wedi codi swm anhygoel i'n helusen sy'n achub bywydau.

“Er gwaethaf y tywydd ofnadwy yn ystod ei chynnig diwethaf, llwyddodd i redeg dros 63 milltir, gan roi'r gorau i'r ymgais i osod y record dim ond pan aeth yn rhy beryglus iddi fynd ymlaen. Mae ei dyfalbarhad yn ysbrydoledig.

“Mae'n her bersonol anodd ynddi ei hun a byddwn yn ei chefnogi bob cam o’r ffordd at y llinell derfyn – gyda'r gobaith o osod record newydd. Mae'n anhygoel bod Sanna yn dewis codi arian ar gyfer ein gwasanaeth sy'n achub bywydau ar yr un pryd. Rydym mor ddiolchgar iddi am ei chymorth a hoffem ddymuno'n dda iddi. Diolch i bawb sydd wedi cefnogi Sanna ac sy'n parhau i'w chefnogi i godi arian.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth i Sanna drwy fynd i’w thudalen Just Givng – Sanna’s 186 miles – Pembrokeshire Coastpath – a rhoi arian yn https://www.justgiving.com/fundraising/sanna-duthie2.