04/06/2020

Mae aelodau a staff clwb iechyd a ffitrwydd yn Sir y Fflint wedi dod at ei gilydd i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud.

Roedd eu digwyddiad rhithwir i godi arian, a drefnwyd gan Stiwdio Iechyd JS-PT, yn cynnwys cymryd rhan yn her rithwir yr Elusen, Cerdded Cymru, yn ogystal â'r Her 2.6 genedlaethol. Dros benwythnos Gŵyl y Banc yn ddiweddar, gwnaeth ffrind y sefydlwyr, DJ GAL, gynnal set DJ am bedair awr i godi arian hefyd.

Yn wreiddiol, roeddent am godi £100 i'r Elusen, ond maent wedi rhagori ar y targed hwnnw ac wedi codi £1,200 hyd yn hyn. 

Roedd Her Cerdded Cymru yn gyfle i'r sawl a gymerodd ran gerdded pellter lleoliadau enwog Cymru o'u cartrefi, eu gerddi neu wrth fynd am dro bob dydd.

Dywedodd Debra Sima, Cydlynydd Cymunedol Ambiwlans Awyr Cymru: “Rwyf wedi bod yn aelod o'r stiwdio ers tua blwyddyn. Mae'r tîm a'r aelodau yn gefnogol iawn. Gwnaeth rhwng 15 ac 20 o aelodau achub ar y cyfle i gymryd rhan yn Her Cerdded Cymru pan rannais y digwyddiad â nhw. 

“Mae'r ymdeimlad o gymuned sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y cyfyngiadau symud wedi bod yn wych. Roedd set DJ GAL am bedair awr yn boblogaidd iawn a bu'n help mawr i ni godi mwy o arian. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o'r gymuned leol hon.”

Gwnaeth y stiwdio iechyd hefyd addo i helpu'r gymuned ac mae wedi llwyddo i godi £500 hyd yn hyn, a fydd yn cael ei ddefnyddio i helpu busnesau bach y bu'n rhaid iddynt gau yn ystod y cyfyngiadau symud.

Wrth drafod pwysigrwydd ymarfer corff yn ystod y cyfyngiadau symud, dywedodd perchennog y stiwdio, Jack Sullivan: “Mae'n bwysicach nawr nag erioed i gadw'n heini a sicrhau eich bod yn cael digon o le i anadlu, bod gennych drefn ddyddiol a'ch bod yn cael amser i ffwrdd o'r cyfrifiadur. Fel y mae pawb yn gwybod, mae sawl mantais i ymarfer corff, ond gyda'r cyfyngiadau symud yn cynyddu'r siawns o deimlo straen, pwysau a gorbryder, gall fod yn fendith. Boed yn gerdded, yn rhedeg, gwneud sesiwn cadw'n heini yn y cartref, ioga, ymestyn neu ddawnsio – mae popeth yn cyfrif.

Mae Stiwdio Iechyd JS-PT eisoes wedi codi arian ar gyfer Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Wrth drafod pam y gwnaeth yr aelodau ddewis y gwasanaeth brys hwn, dywedodd Jack: “Rydym yn dibynnu arno i fod ar gael i ni ar unrhyw adeg. Mae'n gwbl ddibynnol ar arian a gaiff ei godi, felly mae angen i ni chwarae ein rhan i'w helpu gan ei fod yn gwneud gwaith gwych, gyda'r cyfyngiadau symud a hebddynt.


“Mae ein cleientiaid wedi bod yn wych yn cymryd rhan yn yr holl sesiynau, heriau, digwyddiadau a gemau rydym wedi'u cynnal. Rydym wedi bod yn gwneud mwy i'r gymuned hefyd ac mae'r cyhoedd wedi dangos cefnogaeth i hyn. Mae'n ymdrech fawr i bawb dan sylw ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r sawl sydd wedi cefnogi a rhoi arian i'r ymdrech!”

Gallwch roi arian ar dudalen codi arian Just Giving Stiwdio Iechyd JS-PT yma.

Mae sawl ffordd y gall y cyhoedd barhau i gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys rhoddion ar-lein, cofrestru ar gyfer Loteri Achub Bywydau yr Elusen, neu drwy feddwl am eu ffyrdd arloesol eu hunain o godi arian. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ambiwlansawyrcymru.com.

Fel arall, gellir tecstio'r gair HELI i 70711 er mwyn rhoi £5.