4ydd Ebrill 2018


Mae’r grŵp cludo nwyddau wedi ail-baentio trelar gyda’r nod o hyrwyddo gwaith yr elusen.

Yn wyrdd, coch a gwyn, nid oes modd colli’r trelar wrth iddi deithio ar hyd heolydd y DU.

Dywedodd Cydlynydd Cymunedol AAC Steffan Anderson-Thomas: “Rydym wir yn gyffrous am y bartneriaeth newydd hon gydag Owens. Mae’r enw hwn yn adnabyddus ar hyd a lled Cymru, ac felly, mae’r ffaith eu bod yn ein cefnogi yn hwb enfawr i ni. Rydym yn ceisio casglu £6.5 miliwn y flwyddyn er mwyn cynnal y gwasanaeth. Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn ein helpu ni gyrraedd ein targed codi arian.”

Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Grŵp Owens, Emyr Owen: “Mae Grŵp Owens wedi ei lleoli yn Nafen am y 45 mlynedd ddiwethaf ac yn falch iawn o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r cyfleusterau gwych yma ond wedi eu lleoli rhyw dafliad carreg wrthym, ac rydym yn gobeithio y bydd y trelar newydd hon, a fydd yn teithio ar hyd a lled Cymru a rhannau o’r DU, yn denu sylw pobl ac yn helpu casglu mwy o arian i’r elusen.”

Dywedodd Steffan: “Mae’n anodd peidio â sylwi ar y trelar a byddem yn annog pobl i edrych amdano wrth iddynt deithio Cymru. Mae yna god cyfrannu unigryw ar y trelar ac mae pob yn medru danfon neges destun os yw'n ddiogel iddynt wneud hyn. Unwaith eto, diolch i Owens am ein cefnogi ni ac rydym yn edrych ymlaen at weld y trelar ar hyd y lle.”

Er mwyn cyfrannu dros eich ffôn mudol, danfonwch y neges destun, Owen02 a’r swm i 70070.